1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru ar 2 Tachwedd 2016.
1. A wnaiff y Gweinidog amlinellu cynlluniau Llywodraeth Cymru i ddatblygu addysg uwchradd yn Sir Benfro? OAQ(5)0036(EDU)
Diolch yn fawr, Paul. Mae awdurdodau lleol yn gyfrifol am gynllunio a darparu eu gwasanaethau addysg, gan gydbwyso anghenion a gofynion lleol. Wrth argymell newid, mae’n rhaid iddynt sicrhau eu bod yn cydymffurfio â’r cod trefniadaeth ysgolion statudol.
Diolch i Ysgrifennydd Cabinet am yr ymateb hwnnw. Nawr, bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ymwybodol fod nifer o ymgynghoriadau wedi cael eu cynnal ynglŷn â’r ddarpariaeth uwchradd yn Hwlffordd dros y ddwy i dair blynedd diwethaf, sydd wedi oedi’r broses o wella addysg i blant a phobl ifanc. Mae’n bwysig yn awr fod Cyngor Sir Penfro yn dechrau cyflawni, gan fod y nifer hon o ymgynghoriadau, sydd wedi arwain at oedi enfawr, wedi bod yn niweidiol i ddyfodol plant yn yr ardal. Felly, o dan yr amgylchiadau, a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddweud wrthym pa rôl y mae Llywodraeth Cymru yn ei chwarae i sicrhau nad oes unrhyw oedi pellach, a’n bod yn gweld ysgol cyfrwng Saesneg 11 i 19 oed yn cael ei sefydlu yn Hwlffordd cyn gynted ag y bo modd?
Diolch yn fawr am y cwestiwn hwnnw, Paul, ac am y pwyntiau a wnewch am bwysigrwydd sicrhau newid yn Sir Benfro, er mwyn gwella canlyniadau addysgol i blant a phobl ifanc yn eich etholaeth. Os ceir newidiadau, fe fyddwch yn ymwybodol fod yna bosibilrwydd y bydd rhai o’r newidiadau hynny’n cael eu cyfeirio at Lywodraeth Cymru er mwyn iddi benderfynu yn eu cylch. Felly, ni fyddai’n iawn i mi wneud sylwadau ar rinweddau unrhyw argymhellion.
Fel y dywedais, rwy’n disgwyl i gynghorau gydymffurfio â’r rhwymedigaethau sy’n cael eu gosod arnynt gan y cod trefniadaeth ysgolion. Rwy’n bwriadu ymgynghori ar gadernid y cod yn ddiweddarach y mis nesaf. Ond rwy’n awyddus i sicrhau bod pob awdurdod yn manteisio ar yr £1.4 biliwn sydd ar gael yn rhaglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain i ddarparu cyfleusterau cyfoes o’r radd flaenaf y gwyddom eu bod yn effeithio’n enfawr ar yr addysg y mae’r athrawon sy’n addysgu yn yr adeiladau hynny yn ei darparu, a’r plant sy’n cael eu haddysg ynddynt.
Rwyf eisiau gofyn y cwestiwn yn Gymraeg. A oes gan y Gweinidog unrhyw dystiolaeth i gefnogi’r sylw a glywais i yn ddiweddar bod ysgolion sydd yn cynnig addysg dim ond o 11 i 16 oed—hynny yw, lefel TGAU—yn gwneud yn well yn gyffredinol nag ysgolion sydd yn cynnig addysg i blant o 11 i 18? A oes yna unrhyw wirionedd yn y sylw yna?
Diolch i chi am y sylw hwnnw. Mae rhai o’n hysgolion mwyaf llwyddiannus yn ysgolion 11 i 16 oed, ond nid wyf yn ymwybodol o unrhyw astudiaeth gynhwysfawr sy’n edrych ar ganlyniadau cymharol ysgolion sy’n cynnig cwricwlwm 11 i 16 oed, neu 11 i 18 oed. Yr hyn sy’n wirioneddol bwysig yw bod awdurdodau lleol yn ystyried nodweddion unigryw yr ardal lle y maent yn darparu addysg. Rydym yn gweld amrywiaeth eang o ysgolion, fel y dywedais, yn gweithio ar draws 11 i 16 oed, 11 i 18 oed, ac yn gynyddol, gwelwn ysgolion pob oed yn cael eu datblygu, lle y caiff plant eu haddysgu drwy gydol eu taith addysgol ar un safle penodol. Cefais y pleser mawr yn ddiweddar o ymuno â’r Llywydd i agor ysgol o’r fath yn Llandysul. Bydd yn ddiddorol gallu cymharu canlyniadau’r modelau gwahanol hyn, fel y gallwn ddysgu beth sy’n gweithio orau. Ond bydd yn rhaid i bob awdurdod lleol wneud y penderfyniad sy’n iawn ar gyfer eu poblogaeth leol.
Mae’r ddau gwestiwn yn creu penbleth diddorol, rwy’n credu—y saga sydd wedi digwydd yn Hwlffordd, a chwestiwn Eluned Morgan. Ac mae’n dasg anodd, oherwydd yr hyn sy’n debygol o ddigwydd yn awr yn Sir Benfro yw ein bod yn debygol o gael rhai ysgolion 11 i 16 oed, rhai ysgolion â chweched dosbarth, a rhywfaint o ddarpariaeth mewn coleg addysg bellach, ond mewn darpariaeth chweched dosbarth ar wahân yn y coleg addysg bellach hwnnw. Ac mae’n ymddangos bod gennym ymagwedd dameidiog mewn cenedl fach o 3 miliwn o bobl, gan ganiatáu’r atebion lleol hyn sydd, ar yr olwg gyntaf, yn ymddangos yn wych, ond a ydynt mewn gwirionedd yn sicrhau’r safonau addysgol uchaf? A dyna ble y daw Llywodraeth Cymru i mewn i bethau. Felly, a yw hi wedi gallu ffurfio barn eto ai dull campws ysgol, neu ddull coleg addysg bellach yw’r ffordd orau o ddarparu addysg ôl-16?
Nid wyf yn ystyried mai fy ngwaith i, na gwaith Llywodraeth Cymru yn wir, yw dweud wrth gymunedau unigol sut ysgolion ddylai fod yn y cymunedau hynny. Rwy’n credu mai awdurdodau addysg lleol sydd yn y sefyllfa orau i farnu, mewn ymgynghoriad â rhieni, athrawon, disgyblion, a’u poblogaethau lleol ynglŷn â’r mathau o ysgolion sy’n gweddu orau iddynt hwy. Gwyddom fod rhai o’n hysgolion sy’n perfformio orau yn ysgolion 11 i 16 oed. Gwyddom fod ysgolion eraill sydd â chweched dosbarth hefyd yn perfformio’n dda. Nid oes un ateb sy’n addas i bawb, hyd yn oed mewn cenedl fach, ac rwy’n credu ei bod yn egwyddor bwysig fod Llywodraeth Cymru yn pennu’r disgwyliadau sydd gennym ar gyfer pob ysgol, sef rhagoriaeth i bob disgybl a gwella safonau, ond o ran natur ysgolion unigol, mae’n well gadael i boblogaethau lleol benderfynu beth sy’n gweddu orau i’w cymunedau ac nid oes arnaf eisiau dweud wrth y cymunedau hynny beth i’w wneud o’r canol.