Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:35 pm ar 2 Tachwedd 2016.
Mae angen inni weld cynnydd sylweddol yn nifer y plant a phobl ifanc sydd mewn addysg cyfrwng Cymraeg os ydym am gyflawni’n targed uchelgeisiol o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Bydd y fersiwn derfynol o strategaeth y Gymraeg yn cynnwys targedau i fesur canlyniadau a chyflawniad yn ystod y blynyddoedd nesaf.