Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:36 pm ar 2 Tachwedd 2016.
Diolch i’r Gweinidog am yr ateb, ac rwy’n cytuno gyda phob gair. Mae’n amhosib i gyrraedd y targed rydym ni i gyd yn dymuno’i weld heb fod yna gynnydd sylweddol mewn addysg Gymraeg. Hyd yma, nid oes cyswllt wedi bod rhwng y targedau sydd tu fewn i’r cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg a’r strategaeth genedlaethol a oedd gan y Llywodraeth ar gyfer twf mewn addysg Gymraeg. A yw’n ddymuniad ac yn fwriad felly gan y Gweinidog i briodi’r ddau yna yn un targed cenedlaethol, sydd wedyn yn cael ei rannu a’i ddosbarthu yn lleol? A beth mae e am ei wneud o ran y dadleuon anodd ond pwysig ym mhob cymuned nawr sydd yn wynebu troi addysg sy’n cael ei weld yn gyfrwng Saesneg i addysg cyfrwng Cymraeg, lle mae’r cam ymlaen, wrth gwr, yn mynd i fod o fudd i addysg yn y Gymraeg a’r Saesneg i’r cymunedau hynny?