Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:48 pm ar 2 Tachwedd 2016.
Diolch eto, Lywydd. Mae Mudiad Meithrin wedi colli £470,000 y llynedd, ac yn mynd i gau’i ‘crèche’ yng nghanolfan yr Hen Llyfrgell yng Nghaerdydd oherwydd diffyg diddordeb yn y gwasanaeth. Ar yr un pryd, rwy’n clywed wrth staff y cylchoedd eu hunain eu bod nhw wedi ennill llai na’r cyflog byw yn ymarferol oherwydd na allant gwblhau eu holl waith paratoi, clirio a gwaith gweinyddol cyffredinol o fewn yr amser maent yn cael eu talu. Mae Mudiad Meithrin yn rhan sylfaenol o’r strwythur i ddatblygu defnydd y Gymraeg a hyrwyddo addysg Gymraeg. A yw’r broblem yn fodel ariannol gwael, neu a oes angen i chi edrych yn agosach ar hyn i weld beth sydd wedi mynd o’i le?