Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:49 pm ar 2 Tachwedd 2016.
Rwy’n gweld ac yn clywed y pwyntiau mae llefarydd y Ceidwadwyr wedi eu gwneud. Os oes gyda hi dystiolaeth, wrth gwrs, nad yw pobl yn cael y cyflog y dylen nhw fod yn ei gael, mae’n rhydd i ysgrifennu ataf i gyda’r manylion am hynny, a byddaf i’n hapus i ateb hynny. Ond, yn fwy cyffredinol, mae Mudiad Meithrin yn rhan, fel rydych chi wedi ei awgrymu, bwysig o’n cynlluniau ni i ehangu ar ac yn datblygu darpariaeth Gymraeg ar gyfer plant blynyddoedd cynnar, ac mae gyda ni hyder y gall y Mudiad Meithrin barhau i fod yn bartner i Lywodraeth Cymru.