<p>Y System Genedlaethol ar gyfer Categoreiddio Ysgolion</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:56 pm ar 2 Tachwedd 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Kirsty Williams Kirsty Williams Liberal Democrat 1:56, 2 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, Adam. Rwy’n credu mai’r peth cyntaf i’w ddweud yw ei bod yn bwysig cofio nad yw’r system categoreiddio ysgolion yn system sy’n seiliedig ar ddata yn unig. Mae yna ffactorau gwahanol yn ogystal â data sy’n rhan o’r broses o gategoreiddio ysgol. Pe bai yna unrhyw dystiolaeth fod pobl yn gweithredu yn y fath fodd, byddai’n anonest a byddai’n amhroffesiynol. Os oes gan athrawon dystiolaeth o hynny, hoffwn ei gweld, a byddwn yn ei thrin yn ddifrifol iawn. Rwyf bob amser yn agored i edrych ar ffyrdd y gallwn berffeithio’r fethodoleg sydd ynghlwm wrth y cod trefniadaeth ysgolion. Os oes gan yr Aelod, neu unrhyw Aelod yn wir, syniad ynglŷn â sut y gallwn wneud methodoleg y cod trefniadaeth ysgolion yn fwy cadarn, rwyf bob amser yn barod i edrych ar hynny ac ni fyddwn yn ofni ei diwygio neu ei newid.

O ran asesiadau athrawon, fe wyddom fod angen gwella ansawdd asesiadau athrawon. Mae Estyn yn dweud wrthym ei fod yn gwella, yn enwedig pan fo gennym ddilysiad grŵp ac athrawon eraill yn edrych ar sut y mae athrawon o ysgolion eraill wedi ffurfio’u barn a gwerthusiad ar waith plentyn unigol. Ond mae’r cynnig yn un dilys i’r Aelod: os ydych yn teimlo bod gennych syniadau ynglŷn â sut y gallwn wneud y cod trefniadaeth ysgolion yn fwy cadarn, rwy’n barod i edrych ar hynny ac nid oes arnaf ofn ei newid.