Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 1:58 pm ar 2 Tachwedd 2016.
Ysgrifennydd y Cabinet, yn natganiad ysgrifenedig eich rhagflaenydd ar 28 Ionawr eleni, dywedodd Huw Lewis nad oedd y system yn ymwneud â labelu neu greu tablau cynghrair moel. Dywedodd hefyd y byddai unrhyw ysgol sy’n perfformio islaw’r perfformiad y cytunwyd arno o ran prydau ysgol am ddim yn cael dyfarniad melyn ar y gorau. Gallaf weld y rhesymeg sy’n sail i hyn, yn enwedig mewn ardaloedd gyda nifer fawr yn cael prydau ysgol am ddim, ond mae’n golygu bod rhai ysgolion sy’n perfformio’n dda iawn mewn ardaloedd eraill yn cael dyfarniad is. A yw hon yn dal i fod yn rheol absoliwt? A ydych yn cadw’r model hwn o dan arolwg? Sut rydych yn sicrhau’r cydbwysedd anodd iawn rhwng labelu, sy’n rhan angenrheidiol o hyn gyda’r cynllun lliw, a gwneud yn siŵr fod ysgolion yn cael eu trin yn deg?