Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 2:00 pm ar 2 Tachwedd 2016.
Diolch. Cymdeithas Rygbi Cyffwrdd Cymru yw pencampwyr iau Ewrop; fe wnaethant ennill y bencampwriaeth yn yr haf. Mae’r plant dan 18 oed wedi ennill y bencampwriaeth dair blynedd yn olynol, sy’n anhygoel. Mae’n gamp wych ar gyfer gwella sgiliau trin; ac mae’n fawr yn hemisffer y de. Mae fy nghwestiwn, mewn gwirionedd, yn ymwneud â CBAC, ac rwy’n meddwl tybed a allwch helpu. Mae rygbi cyffwrdd yn cael ei hepgor o’r pynciau y gall disgyblion eu dewis ar gyfer TGAU, ac nid yw hynny i’w weld yn gwneud synnwyr. Cefais y fraint, mewn gwirionedd, o chwarae gêm o rygbi cyffwrdd yn ddiweddar gyda’r plant, ac mae’n wych, mae gennych ferched a bechgyn yn cymysgu, safon uchel, llawer o hwyl, ac yn wir, fe ddylai fod yn gamp sydd ar gael ar gyfer TGAU, yn fy marn i. Byddwn yn ddiolchgar iawn pe gallech edrych ar hyn.