1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru ar 2 Tachwedd 2016.
4. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am hyrwyddo rygbi cyffwrdd mewn ysgolion? OAQ(5)0048(EDU)
Rwyf am i bob person ifanc gael cyfle i gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol. Gall ysgolion ddarparu amgylchedd diogel a strwythuredig ar gyfer chwarae rygbi ac mae rygbi cyffwrdd yn ffordd dda o gyflwyno’r gêm i chwaraewyr newydd.
Diolch. Cymdeithas Rygbi Cyffwrdd Cymru yw pencampwyr iau Ewrop; fe wnaethant ennill y bencampwriaeth yn yr haf. Mae’r plant dan 18 oed wedi ennill y bencampwriaeth dair blynedd yn olynol, sy’n anhygoel. Mae’n gamp wych ar gyfer gwella sgiliau trin; ac mae’n fawr yn hemisffer y de. Mae fy nghwestiwn, mewn gwirionedd, yn ymwneud â CBAC, ac rwy’n meddwl tybed a allwch helpu. Mae rygbi cyffwrdd yn cael ei hepgor o’r pynciau y gall disgyblion eu dewis ar gyfer TGAU, ac nid yw hynny i’w weld yn gwneud synnwyr. Cefais y fraint, mewn gwirionedd, o chwarae gêm o rygbi cyffwrdd yn ddiweddar gyda’r plant, ac mae’n wych, mae gennych ferched a bechgyn yn cymysgu, safon uchel, llawer o hwyl, ac yn wir, fe ddylai fod yn gamp sydd ar gael ar gyfer TGAU, yn fy marn i. Byddwn yn ddiolchgar iawn pe gallech edrych ar hyn.
A gaf fi ymuno â’r Aelod i longyfarch y timau ar eu llwyddiant? Gwn fod yr Aelod wedi gwahodd y timau yn ddiweddar—yr wythnos diwethaf rwy’n credu—i’r Siambr i ddathlu eu llwyddiant? Rwy’n rhannu eich brwdfrydedd dros rygbi ar bob ffurf. Yn wir, bu fy merch ieuengaf yn cystadlu’n ddiweddar yn nhwrnament rygbi tag yr Urdd, yma yng Nghaerdydd, ac fe fwynhaodd ei hun yn fawr iawn. Bydd yr Aelod yn ymwybodol fod cymwysterau yn annibynnol ar y Llywodraeth, ond rydym hefyd, fel y gwyddoch, yn datblygu ein cwricwlwm. Mae meysydd profiad a dysgu yn cael eu datblygu ar hyn o bryd, ac rwy’n siŵr y bydd cyfle i blant gymryd rhan yn y gamp hon yn ffurfio rhan o hynny.
Lywydd, os caniatewch i mi, carwn fanteisio ar y cyfle hwn, ar ran yr holl Aelodau, i ddymuno’r gorau i’n tîm cenedlaethol yn eu gêm agoriadol yng ngemau rhyngwladol yr hydref yn erbyn y Wallabies ddydd Sadwrn, a mynegi ein cydymdeimlad ag Alun Wyn Jones, a oedd fod yn gapten ar y tîm ddydd Sadwrn, ond na fydd yn gallu gwneud hynny yn sgil marwolaeth ei dad?
Os caf ategu sylwadau Ysgrifennydd y Cabinet ar ddiwedd y cwestiwn hwnnw, hoffwn wneud hynny. Fel rhywun sy’n dal i chwarae rygbi, er mai rygbi i chwaraewyr hŷn yw hwnnw, a rhywun sy’n dal i ymdrin â’r nifer o lythyrau gan yr unigolion a drawmateiddiwyd wrth fy ngweld wedi diosg fy nghrys ym Mharc yr Arfau Caerdydd—mae honno’n olygfa rhy frawychus—rwy’n derbyn y pwynt fod rygbi ar unrhyw ffurf yn lefelwr mawr ac yn y pen draw, yn ffordd wych o ddod â phobl at ei gilydd mewn meddylfryd tîm. Yn anffodus, mae chwaraeon tîm wedi dioddef ym maes addysg yn ystod y blynyddoedd diwethaf—yn y degawdau diwethaf, hyd yn oed—a hoffwn wybod pa gamau y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn eu rhoi ar waith, gan weithio gyda’i chyd-Aelod yn y Cabinet, y Gweinidog iechyd, sydd â chyfrifoldeb dros chwaraeon, i wneud yn siŵr fod yna raglenni hyfforddi ac amser yn y cwricwlwm i athrawon sydd eisiau cael eu tystysgrifau hyfforddi er mwyn galluogi mwy o chwaraeon tîm yn ein hamgylchedd ysgol, boed yn ysgolion cynradd neu uwchradd.
A gaf fi ddiolch i arweinydd y Blaid Geidwadol am ei gwestiwn, ond o ran y llun y mae’n ei ddarlunio, unwaith eto, ohono heb ei grys, a gaf fi eich atgoffa mai ddydd Lun oedd Calan Gaeaf, nid heddiw? [Chwerthin.] Dros y tair blynedd diwethaf, mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi, gyda Chwaraeon Cymru, £3.7 miliwn er mwyn cyflwyno rhaglenni llythrennedd corfforol yn ysgolion Cymru, a dangosodd arolwg 2015 o chwaraeon mewn ysgolion gynnydd sylweddol yn nifer y disgyblion sy’n gwneud chwaraeon am yr ail arolwg yn olynol, ac rwy’n siŵr fod hynny i’w groesawu. Rhaid i ni gydnabod, os ydym yn mynd i annog pobl i gymryd rhan mewn chwaraeon, fod yn rhaid i ni gynnig ystod eang o weithgareddau chwaraeon, nid chwaraeon tîm yn unig; byddai’n well gan rai pobl ddewisiadau gwahanol. Rydym yn gwybod, er enghraifft, fod merched wrth eu bodd yn cymryd rhan mewn gweithgareddau dawnsio stryd, efallai, yn hytrach na chwaraeon tîm. Ond fel chi, rwy’n credu yn y sgiliau bywyd pwysig y gall pobl ifanc eu datblygu wrth gymryd rhan mewn chwaraeon, a bydd chwaraeon ac addysg gorfforol yn parhau i fod yn rhan bwysig iawn o’n datblygiadau newydd ar gyfer y cwricwlwm wrth i ni fwrw ymlaen ag adolygiad Donaldson.