<p>Asesiadau Effaith Ieithyddol</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 2:12 pm ar 2 Tachwedd 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Alun Davies Alun Davies Labour 2:12, 2 Tachwedd 2016

Y Llywodraeth fydd yn gyfrifol am sicrhau bod yna weithlu ym mhob un maes sy’n gallu cyflwyno’r ddarpariaeth sydd ei hangen arnom ni ar gyfer y dyfodol. Rwy’n croesawu’r ychwanegiad at y gyllideb sydd gyda ni nawr i allu datblygu gweithlu ar gyfer y dyfodol. Mi fydd yr Aelod yn ymwybodol bod yr Ysgrifennydd Cabinet, Kirsty Williams, wedi rhyddhau datganiad y bore yma i ddatgan bod yna weithgor yn edrych ar sut yr ydym ni’n datblygu mwy o sgiliau yn y gweithlu drwy’r system addysg bellach. Rŷm ni’n cydnabod bod angen mwy o sgiliau arnom ni a bod yn rhaid i ni gynllunio’r gweithlu. Mae’r gweithgor yn mynd i fod yn rhan bwysig o wneud hynny.