Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 2:14 pm ar 2 Tachwedd 2016.
Diolch. Fel chi, Vikki, hoffwn longyfarch Ysgol Uwchradd Pontypridd ar y gwelliannau a nodwyd. Rwy’n ymroddedig i adeiladu, fel y dywedais, ar y cynnydd a wnaed mewn ysgolion Llwybrau Llwyddiant, gan sicrhau bod y gwersi’n cael eu dysgu ynglŷn â sut y gallwn rannu hynny ar draws y system ysgolion ehangach. Rydym yn gweithio’n agos gydag awdurdodau lleol a’r consortia rhanbarthol i sicrhau bod cynlluniau ymadael ar gyfer pob ysgol yn gadarn ac yn eu lle a’n bod ag ymagwedd gyfannol, fel bod y llwyddiannau a welsoch yn yr ysgolion hynny rydych wedi ymweld â hwy yn parhau, ac fel bod modd rhannu arferion gorau yn rhan o’n hymrwymiad i system hunanwella i ysgolion.