Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 2:15 pm ar 2 Tachwedd 2016.
Fel y mae’r Aelod dros Gwm Cynon newydd ei ddweud, mae’r rhaglen hon yn gwneud gwahaniaeth mewn rhai ysgolion yng Nghymru, gan gynnwys ysgol gyfun Aberdaugleddau yn fy etholaeth fy hun, ond rwy’n deall bod y canlyniadau i’w gweld yn anghyson ledled Cymru. Fodd bynnag, gan y bydd y rhaglen yn awr yn dod i ben dair blynedd yn unig ar ôl ei sefydlu, a yw Ysgrifennydd y Cabinet yn fodlon fod rhaglen fel hon wedi cael yr amser angenrheidiol i brofi ei hun mewn gwirionedd?