<p>Rhaglen Her Ysgolion Cymru</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 2:18 pm ar 2 Tachwedd 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Kirsty Williams Kirsty Williams Liberal Democrat 2:18, 2 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

Unwaith eto, a gaf fi longyfarch y gwaith caled aruthrol a wnaed yn yr ysgol newydd honno am y gwelliannau y maent wedi’u gweld? Mae’n dyst i ymroddiad y staff ac ymrwymiad y disgyblion a’r rhieni, ac mae Nick Brain i’w longyfarch. Huw, rydych wedi crybwyll y pwynt canolog iawn sef sut y gallwn ysgogi newid addysgol yn y wlad hon a’r ateb yw drwy arweinyddiaeth ragorol. Rydym yn gwybod y gall hynny fod yn un o’r ysgogiadau pennaf i sicrhau newid addysgol, pa un a yw ysgol wedi’i chynnwys mewn rhaglen benodol ai peidio. Rwyf wedi ymrwymo i ddatblygu gallu arweinyddiaeth prifathrawon Cymru a’r genhedlaeth nesaf o arweinwyr ysgolion, a byddaf yn gwneud cyhoeddiadau pellach ynglŷn â fy academi arweinyddiaeth a chyllid mewn perthynas â hynny yn nes ymlaen y mis hwn.