Part of 1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Senedd Cymru am 2:19 pm ar 2 Tachwedd 2016.
Rhaid i mi ddweud fy mod yn siomedig iawn fod Her Ysgolion Cymru wedi dod i ben a byddai wedi bod yn well o lawer gennyf ei weld yn cael ei ailraddnodi yn hytrach na’i ddileu. Ceir sylfaen dystiolaeth y gallwn ddysgu oddi wrthi ym Manceinion a Llundain ble y mae wedi llwyddo ac rwy’n credu ei bod yn bwysig fod Ysgrifennydd y Cabinet yn blaenoriaethu buddsoddiad mewn ysgolion, lle y ceir tystiolaeth i gyfiawnhau hynny.
O ran dysgu’r gwersi, o fy nealltwriaeth o Her Ysgolion Cymru, rhan allweddol oedd y gair ‘her’ a’r defnydd o grŵp cymheiriaid i gynorthwyo a chraffu ar ysgol. Felly, sut y gellir cynnwys hynny mewn rhaglen ar gyfer Cymru gyfan, a sut y gall yr Ysgrifennydd sicrhau nad yw’n cael ei lastwreiddio?