10. 9. Dadl Fer: Economi Newydd i Ogledd Cymru

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:49 pm ar 2 Tachwedd 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 5:49, 2 Tachwedd 2016

A gaf i ddiolch am y cyfle i gyfrannu a diolch am gyfraniad Hannah Blythyn y prynhawn yma? Yn amlwg, mae’n bwysig ein bod yn datblygu economi gogledd Cymru fel pwerdy economaidd yn ei rhinwedd ei hun—mae hynny’n allweddol. Mae’n bwysig ein bod yn sicrhau pob budd economaidd posib o Bwerdy’r Gogledd yn Lloegr, ond fy ngofid i, wrth gwrs, os nad oes yna ffocws cryf ar economi’r gogledd ynddo’i hun, mae yna berygl go iawn y gallwn ddisgyn rhwng dwy stôl fan hyn—rhwng Pwerdy’r Gogledd yng ngogledd Lloegr a’r dinas rhanbarthau yn ne Lloegr. Nid atodiad i’r rheini yw economi gogledd Cymru ac mae’n bwysig cydnabod, fel y mae Hannah wedi’i wneud, fod yna gynsail cryf nawr yn ei le i ddatblygu economi gogledd Cymru. Rwy’n gwybod y bydd yr Ysgrifennydd Cabinet yn cytuno â hynny, ac y bydd hynny’n cael ei adlewyrchu yn strategaeth economaidd y Llywodraeth.