– Senedd Cymru am 5:35 pm ar 2 Tachwedd 2016.
Symudwn yn awr at y ddadl fer. Os oes Aelodau’n gadael y Siambr, gwnewch hynny’n gyflym ac yn dawel os gwelwch yn dda. Os ydych am sgwrsio, a wnewch chi sgwrsio y tu allan, os gwelwch yn dda? Brysiwch. Mae’r Cynulliad yn dal i drafod. Symudwn at y ddadl fer, a galwaf ar Hannah Blythyn i siarad am y pwnc y mae wedi’i ddewis. Hannah Blythyn.
Diolch. Fy mwriad yw ceisio rhoi munud i Jeremy Miles, Mark Isherwood, Llyr Gruffydd a Michelle Brown.
Mae gogledd Cymru yn falch o’n treftadaeth ddiwydiannol—dur, glo, llechi a gweithgynhyrchu—ond hefyd o’r harddwch a’r diwylliant y gellir ei ganfod ar flaenau ein bysedd, o Eryri, castell Caernarfon a marina Conwy yn y gorllewin, i fryniau Clwyd, castell y Fflint a Theatr Clwyd yn y dwyrain. Yr wythnos diwethaf, gogledd Cymru oedd yr unig ranbarth yn y DU i gael ei gynnwys yn un o’r 10 rhanbarth gorau yn y byd gan Lonely Planet. Roeddem yn safle rhif 4, gyda’r modd y mae ein tirwedd ddiwydiannol flaenorol wedi cael ei hailddyfeisio i greu cyfres o atyniadau o’r radd flaenaf yn dal llygaid y beirniaid.
Mae Llywodraeth Cymru wedi mabwysiadu dull rhagweithiol o ymyrryd a gweithredu i roi hwb i’n heconomi yng ngogledd Cymru—yn llythrennol felly wrth i Ysgrifennydd y Cabinet roi tro ar y wifren sip yn Eryri—ond yr her i ni wrth symud ymlaen yw canfod y ffordd orau o wella cyfleoedd buddsoddi yn ein hasedau treftadaeth a thwristiaeth rhyfeddol er mwyn creu economi newydd ar gyfer gogledd Cymru, un sy’n adeiladu ar ein henw da yn rhanbarthol ac sy’n cynnig llwybr cynaliadwy i ffyniant ar gyfer ein pobl, ein cymunedau a’n busnesau—economi newydd sy’n cydnabod ein balchder yn ein gorffennol diwydiannol ac sy’n manteisio i’r eithaf ar hynny i roi hwb i’n cynnig treftadaeth, ond sydd hefyd yn dangos ein huchelgais a’n gobaith ar gyfer y dyfodol yn ymarferol.
Fel llawer o bobl eraill, cafodd fy ngwleidyddiaeth a fy ngwerthoedd eu siapio i raddau helaeth gan anrheithio gwaith dur Shotton yn ystod y 1980au. Er fy mod yn cydnabod bod y diwydiant dur yn dal i fod mewn cyflwr difrifol, mae safle Shotton wedi codi o ludw’r 1980au i greu nid un, ond dau fusnes proffidiol, hyfyw, sef Colorcoat a phaneli. Gyda Shotton, nid yw’n ymwneud yn unig ag achub ein dur, mae’n ymwneud ag adnewyddu’r diwydiant. Mae’n eicon arloesol posibl, gan fod dur Shotton, yn wir, yn rhan o adeiladau eiconig fel Stadiwm y Mileniwm a’r Shard yn Llundain.
Mae gennym sylfeini economaidd cryf i adeiladu arnynt ledled gogledd Cymru, ac mae’r sector gweithgynhyrchu uwch yn un o gonglfeini ffyniant y rhanbarth, o weithgynhyrchu enfawr Airbus UK i’r parciau diwydiannol a busnes yn Wrecsam, Glannau Dyfrdwy, Llanelwy ac i’r gorllewin o Delyn. Er mwyn bwrw ymlaen â hyn, mae angen i ni sicrhau bod pobl ifanc ac oedolion yn y rhanbarth yn meddu ar y sgiliau sy’n ateb galw cyflogwyr, ond sydd hefyd, yn bwysig, yn darparu pasbort personol i gyflogaeth gynaliadwy a boddhaol. Mae cysylltiadau rhwng addysg bellach, busnes a’r farchnad lafur yn tyfu. Mae gan Goleg Cambria gyfleuster hyfforddi awyrofod newydd sydd wedi elwa o dros £2 filiwn o gyllid Llywodraeth Cymru, ochr yn ochr â’r ganolfan awyrofod, menter ar y cyd rhwng Coleg Cambria a Phrifysgol Abertawe, sy’n golygu bod gan fyfyrwyr sy’n astudio cyrsiau awyrenneg a pheirianneg yn y rhanbarth fynediad at gyfleusterau hyfforddi o’r radd flaenaf.
Ond rwy’n credu y dylem gychwyn hynny un cam yn gynharach, a chroesawu’r cwricwlwm newydd a gynlluniwyd yng Nghymru i godi ymwybyddiaeth o farchnadoedd cyflogaeth a chyfleoedd sy’n dod i’r amlwg, a’r sgiliau sydd eu hangen gyda myfyrwyr ysgol. Byddai canolfan weithgynhyrchu uwch yng ngogledd ddwyrain Cymru yn allweddol i ddatblygu ein sgiliau rhanbarthol, gan wneud yn siŵr ein bod yn rhoi’r sgiliau i bobl fynd i’r byd gwaith, yn ogystal â chynorthwyo’r rhai sydd eisoes mewn gwaith i ddatblygu eu potensial ar sail barhaus. A chan symud ychydig i’r gorllewin, mae porthladd Mostyn, yn ddaearyddol ac yn ymarferol, yn cysylltu’r sector gweithgynhyrchu uwch yn y dwyrain â’r sector ynni yn y gorllewin, gan gludo’r adenydd A380 o safle Brychdyn i Toulouse, ac yn y blynyddoedd diwethaf daeth yn un o’r prif ganolfannau yn Ewrop ar gyfer adeiladu a gosod tyrbinau yn y sector ynni adnewyddadwy ar y môr.
Yn wir, mae’r sector ynni yn sector economaidd o werth uchel i ddyfodol gogledd Cymru, gyda chyfle i fanteisio ar gyfleoedd yn sgil Wylfa Newydd, gwynt ar y môr, prosiectau biomas ac ynni’r llanw. Er mwyn gwneud hyn yn llwyddiannus, bydd angen i ni fanteisio i’r eithaf ar gysylltiadau â sefydliadau addysgol a chanolfannau ymchwil, nid yn unig yng Nghymru ond dros y ffin yng ngogledd orllewin Lloegr. Hefyd, mae potensial clir gan y sector hwn i greu cyfleoedd cadwyn gyflenwi trawsffiniol.
Mae’n bwysig bod gennym y mecanweithiau ar waith i gefnogi prosiectau ym maes awyrofod, pecynnu, deunyddiau uwch, a bwyd a diod, ochr yn ochr â gweithredu i sicrhau ein bod ar flaen y gad yng ngogledd Cymru mewn ardaloedd twf sy’n dod i’r amlwg fel diwydiannau digidol a chreadigol, ond hefyd diogelu diwydiant traddodiadol ar gyfer y dyfodol i ateb gofynion byd mwy digidol—creu’r sgiliau cynaliadwy ar gyfer y dyfodol, gan ein galluogi i fod yn arweinydd byd ac arwain y ffordd.
Cychwynnais y ddadl hon drwy sôn am yr asedau twristiaeth rhyfeddol sy’n bodoli ledled gogledd Cymru. Wel, mae hyn yn rhoi gwerth economaidd yn ogystal â gwerth diwylliannol i’n rhanbarth. Twristiaeth yw’r brif ffynhonnell gyflogaeth mewn sawl rhan o’r rhanbarth ac mae’r economi ymwelwyr yn sylweddol. Mae’n bosibl dwyn ynghyd ein hanes a’n gobaith ar gyfer y dyfodol, gan fwrw ymlaen ag addewid maniffesto Plaid Lafur Cymru i greu coridor diwylliant ar draws gogledd Cymru—mwy o arwyddion, a chefnogi a hyrwyddo perlau ein twristiaeth yn well—ond cyfuno hyn gyda llwybr arloesedd sy’n cynnig swyddi, cyfleoedd a sgiliau da. Fel Aelod Cynulliad dros etholaeth lle y mae twristiaeth yn gyfrannwr mawr, byddaf yn gweithio mewn partneriaeth â chynrychiolwyr o fyd diwydiant a’r gymuned i fynd i’r afael ag unrhyw heriau a wynebwn ac i fwrw yn ein blaenau yn lleol. Rwy’n bwriadu gweithredu fel arwyddbost i gymorth ar gyfer lleoliadau a mentrau twristiaeth, gan ddod â chyfran deg i’n hardal.
Wrth adeiladu a chynnal economi newydd ar gyfer gogledd Cymru, mae partneriaeth yn hanfodol—partneriaeth rhwng y gweithlu, y gweithle a Llywodraeth Cymru, ynghyd â rhanddeiliaid eraill yn y sector a diwydiant. Mae’n rhaid i ni gydnabod—o ran y gwaith rydym yn ei greu a chymorth ar gyfer y sgiliau rydym yn eu hannog—y rôl y mae ein cymunedau a’n hundebau llafur yn ei chwarae yn cynhyrchu ffyniant economaidd. Fel undebwr llafur, rwyf wedi galw ers amser am gynnwys caffael a mynediad at gymorth ariannol fel cafeat mewn cymalau cymunedol, megis creu prentisiaethau, gwellau sgiliau gweithluoedd sy’n bodoli’n barod a chynnal telerau ac amodau da.
Mae gan y comisiwn seilwaith cenedlaethol arfaethedig y potensial i chwarae rhan arwyddocaol yn datgloi piblinell o brosiectau a chaffael yn y rhanbarth sy’n cefnogi twf economaidd ac yn creu cyfleoedd i’r bobl sy’n byw yn yr ardal. Byddwn yn annog ystyriaeth ofalus o strwythur a safbwynt y comisiwn i wneud yn siŵr ei fod yn adlewyrchu ac yn cynrychioli anghenion amrywiol ein cenedl yn well.
Gellir defnyddio ysgogiadau economaidd yn strategol i rymuso mentrau lleol a galluogi unigolion i gyflawni eu potensial mewn swyddi gwell yn nes at adref. Rydym yn gwybod mai busnesau bach a chanolig eu maint yw asgwrn cefn cyflogaeth leol a’n heconomi leol, ac yn aml maent yn elfen allweddol yn y gadwyn gyflenwi ehangach. Dylai unrhyw gamau i adeiladu economi newydd ar gyfer gogledd Cymru ystyried gwerth busnesau bach a chanolig eu maint a mentrau a ddatblygwyd i gefnogi eu twf a diwallu ein hanghenion yng ngogledd Cymru.
Ni ddylai unrhyw berson ifanc yng ngogledd Cymru deimlo bod yn rhaid iddynt adael eu teulu, eu cartref a’u cymuned er mwyn hyrwyddo eu rhagolygon. Neu os ydynt yn dewis mynd i ffwrdd i weithio, fel y gwnes i, ein lle ni yw sicrhau bod modd denu pobl yn ôl adref—croesawu’r cyfleoedd a grëwyd gan ddatganoli a’r swyddi y mae hyn wedi’u creu, gwneud i ddatganoli weithio’n well i ni a phobl ifanc gogledd Cymru, drwy greu mwy o amrywiaeth o swyddi a chyfleoedd da yn ein hardal.
Mae gwella seilwaith trafnidiaeth ein rhanbarth yn rhan allweddol o unrhyw strategaeth i ddatblygu ein heconomi, ac yn y pen draw, i ddatgloi potensial economaidd gogledd Cymru. Mae gwella’r A55, yr A494 a’r A43 yn rhan hanfodol o alluogi economi ddeinamig, ranbarthol yn ogystal â chaniatáu i bobl gael mynediad ymarferol at waith a busnes. Rydym yn gwybod bod y cyswllt o’r dwyrain i’r gorllewin ac fel arall yn allweddol ar gyfer teithio i ac o’r gwaith yn yr ardal, ond mae hefyd yn caniatáu mynediad at nifer o’n hatyniadau twristiaeth anhygoel, ac mae teithio rhwydd yn elfen graidd o hybu ein hapêl fel cyrchfan twristiaeth ac yn ganlyniad economi ymwelwyr. Gyda hyn mewn cof, rwy’n croesawu’r cyhoeddiad diweddar gan Lywodraeth Cymru i fwrw ymlaen â chynlluniau i wella rhannau o’r A55 a’r A494, yn ogystal ag edrych ar ffyrdd ychwanegol y gellir lleddfu traffig a gwella’r brif ffordd i mewn ac allan o ogledd ddwyrain Cymru. Rwy’n gwybod bod hyn yn bwysig i etholwyr, cymudwyr ac ymwelwyr fel ei gilydd.
Byddai system trafnidiaeth gyhoeddus integredig sy’n adlewyrchu realiti gwaith a bywyd modern yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol o ran gallu pobl i gyrraedd y gwaith, ond hefyd i fuddsoddiadau ac ymwelwyr allu ein cyrraedd. Mae datblygiad y system fetro, fel y’i cynigir ym maniffesto Plaid Lafur Cymru, yn cynnig ateb yn y tymor hir, ond yn y cyfamser mae angen i ni roi camau ar waith i sicrhau bod bysiau a threnau yn cysylltu’n well ac i wneud teithio’n llai trafferthus gyda system dalu integredig sy’n addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain.
Mae’r gallu i weithio ac i gyfathrebu wrth symud, boed hynny drwy Wi-Fi neu bwyntiau gwefru, hefyd yn allweddol wrth wneud ein trafnidiaeth gyhoeddus yn opsiwn mwy deniadol i bobl weithio, chwarae neu aros yn ein rhanbarth. A chan droi at fasnachfraint newydd Cymru a’r gororau, rydym ni yng ngogledd Cymru yn chwilio am ateb i’r heriau rydym wedi’u hwynebu droeon bellach wrth deithio i ac o’n prifddinas—teithiau sy’n fwy cydgysylltiedig o ran teithio a chysur—yn ogystal â gwell cysylltiadau â meysydd awyr yng ngogledd orllewin Lloegr a hyrwyddo mentrau ac atyniadau ledled gogledd Cymru.
Mae’n hanfodol ein bod yn gwneud ein cysylltiadau trawsffiniol yn fwy cystadleuol a deniadol. Mae’r llinell o Wrecsam i Bidston yn wythïen hanfodol yn ein cydgysylltedd. Mae gwir angen y gwelliannau i’r rheilffordd a’r gwasanaeth hwn. Nid yn unig y mae gogledd Cymru wedi’i chysylltu’n ffisegol â’n cymdogion agos yn ngogledd orllewin Lloegr, rydym wedi ein cysylltu’n economaidd hefyd. Gyda hyn mewn cof, rwy’n croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gynnal uwchgynhadledd i arweinwyr o ardal Mersi Dyfrdwy a Phwerdy’r Gogledd er mwyn sefydlu cyfeiriad teithio, a’i chynnal, fel yr addawyd, o fewn 100 diwrnod cyntaf y Llywodraeth hon.
Yn awr yw’r amser i roi’r cynllun hwn ar waith, gan barhau i weithio gyda rhanddeiliaid a phartneriaid rhanbarthol, megis Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru a Chynghrair Mersi a’r Ddyfrdwy, ac i Lywodraeth Cymru ddarparu’r ysgogiadau i hwyluso datblygiad economaidd ar draws gogledd orllewin a gogledd ddwyrain Cymru. Mae hyn yn rhywbeth rwy’n ymrwymo iddo’n bersonol ac yn wleidyddol.
Heddiw, hoffwn wneud yn glir fy mwriad i sefydlu grŵp trawsbleidiol yn y Cynulliad i fwrw ymlaen â’r gwaith hwn, fel Aelodau’r Cynulliad, i ychwanegu cefnogaeth a chryfder gwleidyddol i’r gwaith sy’n allweddol i lunio economi newydd ar gyfer gogledd Cymru. Ysgrifennydd y Cabinet, hoffwn gymryd y cyfle hwn i’ch gwahodd i fynychu cyfarfod agoriadol yn y Senedd a hefyd i gymryd rhan mewn digwyddiad lansio yng ngogledd Cymru?
Er na allwn ni yng Nghymru osgoi cysgod caledi a’r dyfroedd dieithr rydym ynddynt yn dilyn refferendwm yr UE, mae yna gyfle o hyd, ac yn fy marn i, mae yna ewyllys wleidyddol i wneud pethau’n wahanol; i gydweithio â’r Llywodraeth, rhanddeiliaid rhanbarthol, busnes, entrepreneuriaid, addysgwyr ac undebau llafur i greu economi newydd i ogledd Cymru—cydweithio ar economi newydd sy’n buddsoddi yn ein pobl, yn ein cymunedau a’n gwlad a gwneud i ddatganoli weithio ar gyfer gogledd Cymru.
Diolch i Hannah Blythyn am roi munud o’i hamser i mi. Yn amlwg, rwy’n cynrychioli etholaeth yn ne Cymru, ond fy nghyfraniad i’r ddadl, mewn gwirionedd, yw dweud bod y blaenoriaethau a nodwyd gan Hannah Blythyn yn ei haraith yn rhai y dylem eu canmol a’u cefnogi ym mhob rhan o Gymru. Maent yn hanfodol ar gyfer ein datblygiad economaidd a’n dyfodol economaidd cadarn, ym mha ran bynnag o Gymru rydym yn byw.
Hoffwn sôn am un agwedd, sy’n gyffredin i fy rhan i o’r byd a rhan Hannah Blythyn, sef datblygu technoleg môr-lynnoedd llanw, y gobeithiwn eu treialu yn ardal bae Abertawe. Ond mae’n amlwg fod yna gynnig, ac rwy’n gobeithio y daw’n realiti, i hwnnw gael ei gyflwyno ledled gogledd Cymru yn ogystal. Mae’n gwbl hanfodol, nid yn unig ar gyfer yr economi werdd yn gyffredinol, ond o ran buddsoddi yn economi Cymru—bydd bron i hanner y buddsoddiad yn aros yng Nghymru. Bydd y swyddi a gaiff eu creu gan y môr-lynnoedd hyn yn swyddi da, nid yn unig ar y safle, ond hefyd, fel y soniodd yn ei haraith, ar draws y gadwyn gyflenwi, ar gyfer gwahanol rannau o’n heconomi. Amcangyfrifir y bydd y morlyn yn Abertawe yn ychwanegu tua £76 miliwn y flwyddyn i economi Cymru dros 100 mlynedd. Dychmygwch sut beth fyddai hynny pe gallem ei efelychu ledled Cymru.
Mae cydweithrediad trawsffiniol yn ganolog i weledigaeth twf Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru ar gyfer economi gogledd Cymru, a gefnogir gan bob un o’r chwe chyngor, y prifysgolion, y colegau a’r sector busnes, ac a gyflwynwyd i Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yn ystod yr haf hwn. Fel y mae’n ei ddweud, mae hyn yn ymwneud â datblygu strategaeth ar gyfer Pwerdy’r Gogledd, i gyd-fynd â Phwerdy’r Gogledd, wedi’i hintegreiddio’n llawn â chais strategaeth twf Partneriaeth Menter Leol Swydd Gaer a Warrington, gyda chynllun Growth Track 360 ar gyfer buddsoddi yn y rheilffyrdd yn ganolog iddo. Yr hyn nad yw’n galw amdano yw’r metro a gynigiwyd gan Lywodraeth Cymru. Yr hyn y mae’n galw amdano, ochr yn ochr â buddsoddiad, yw datganoli pwerau gan Lywodraeth Cymru mewn perthynas â chyflogaeth, trethi, sgiliau a thrafnidiaeth, gan nodi y byddai hyn yn rhoi hwb i’r economi, swyddi a chynhyrchiant. Byddai’n creu o leiaf 120,000 o swyddi ac yn cynyddu gwerth yr economi leol i £20 biliwn erbyn 2035. Felly, yr hyn y mae angen iddynt ei wybod, ynghyd â Llywodraeth y DU, yw a yw Llywodraeth Cymru am gytuno i siarad â hwy am ddatganoli’r pwerau hynny, ochr yn ochr â phwerau sy’n cael eu datganoli i Bwerdy’r Gogledd, ai peidio. Heb hynny, candi-fflos yw’r gweddill.
A gaf i ddiolch am y cyfle i gyfrannu a diolch am gyfraniad Hannah Blythyn y prynhawn yma? Yn amlwg, mae’n bwysig ein bod yn datblygu economi gogledd Cymru fel pwerdy economaidd yn ei rhinwedd ei hun—mae hynny’n allweddol. Mae’n bwysig ein bod yn sicrhau pob budd economaidd posib o Bwerdy’r Gogledd yn Lloegr, ond fy ngofid i, wrth gwrs, os nad oes yna ffocws cryf ar economi’r gogledd ynddo’i hun, mae yna berygl go iawn y gallwn ddisgyn rhwng dwy stôl fan hyn—rhwng Pwerdy’r Gogledd yng ngogledd Lloegr a’r dinas rhanbarthau yn ne Lloegr. Nid atodiad i’r rheini yw economi gogledd Cymru ac mae’n bwysig cydnabod, fel y mae Hannah wedi’i wneud, fod yna gynsail cryf nawr yn ei le i ddatblygu economi gogledd Cymru. Rwy’n gwybod y bydd yr Ysgrifennydd Cabinet yn cytuno â hynny, ac y bydd hynny’n cael ei adlewyrchu yn strategaeth economaidd y Llywodraeth.
Mae gweithredu trawsffiniol yn awgrym i’w groesawu—yn wir, rwy’n credu ei fod yn syniad gwych. Fe fyddwn yn dweud hynny serch hynny, mae’n debyg, oherwydd ei fod yn ein maniffesto y llynedd. Y realiti yng ngogledd Cymru yw ein bod wedi ein cysylltu’n agos â gogledd orllewin Lloegr o ran economeg, trafnidiaeth, busnes a chysylltiadau teuluol. Mae llawer ohonom yn cymudo bob dydd i Loegr i ennill cyflog y byddwn yn ei wario yng Nghymru yn sgil hynny. Fodd bynnag, mae arnom angen cyflogaeth o ansawdd yn y gogledd. Y realiti i lawer o bobl yw y byddant yn cael addysg wych, ond wedyn cânt eu colli i Loegr am mai dyna ble y mae’r gwaith. Mae cysylltiadau â Lloegr, ac yn fwy pwysig â gweddill y byd drwy ein mynediad at lwybrau môr rhyngwladol, yn rhoi cyfle i ni ffynnu, ond mae angen i ni gael gwared ar y rhwystrau i fusnesau bach a chanolig eu maint, lleihau biwrocratiaeth a chaniatáu i bobl fusnes gyflawni eu busnes heb ymyrraeth dadol gan y Llywodraeth. Felly, byddwn yn bendant o blaid meithrin cydweithrediad trawsffiniol ar y ddwy ochr, ond hoffwn glywed gan Hannah sut y mae hi’n gweld hynny’n gweithio mewn gwirionedd, oherwydd nid oedd yn glir yn eich cyfraniad. Diolch.
Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith i ymateb i’r ddadl. Ken Skates.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddechrau drwy ddiolch i’r Aelod dros Ddelyn am gyflwyno’r ddadl bwysig a pherthnasol hon heddiw ar economi gogledd Cymru, o gofio bod datganiad yr hydref ar ei ffordd yn fuan iawn? Rwy’n falch iawn o gael y cyfle i ymateb i’r sylwadau a wnaed gan nifer o’r Aelodau, ac rwy’n credu y dylwn gychwyn fy nghyfraniad ar ddyfodol gogledd Cymru drwy gydnabod cryfderau’r economi ranbarthol fel y mae heddiw.
Mewn nifer o feysydd, megis awyrofod, ynni a gweithgynhyrchu uwch, mae gogledd Cymru ar flaen y gad mewn diwydiant, ac o gymharu â Chymru yn gyffredinol, mae gan ogledd Cymru gyfradd gyflogaeth uwch, cyfradd ddiweithdra is a chyfradd anweithgarwch economaidd is na gweddill Cymru. Mae allbwn economaidd ac incwm aelwydydd y pen yn uwch yng ngogledd Cymru nag yng ngweddill Cymru. Rwyf am adeiladu ar y sylfaen gadarn hon, a dyna pam rydym yn rhoi camau gweithredu clir ar waith i annog datblygu economaidd pellach yng ngogledd Cymru. Mae’r Aelod dros Ddelyn yn gwbl gywir i dynnu sylw at y ffaith fod Lonely Planet wedi datgan yn ddiweddar mai gogledd Cymru yw’r pedwerydd rhanbarth gorau ar y blaned, ac ni allem obeithio am well cymeradwyaeth i waith Llywodraeth Cymru a gwaith Croeso Cymru yn gwella gogledd Cymru fel cyrchfan i ymwelwyr. Mae o werth mawr i’r economi ac mae hefyd yn ychwanegu at yr ymdeimlad o falchder o’u hardal sydd gan bobl gogledd Cymru.
Rydym wedi cydnabod ers tro bod gogledd ddwyrain Cymru’n elwa o ardal economaidd drawsffiniol sy’n ymestyn i ogledd orllewin Lloegr ac i lawr i ganolbarth Lloegr. Yn wir, mae ardal Mersi a’r Ddyfrdwy ar ei phen ei hun yn cynhyrchu’r hyn sy’n cyfateb i hanner holl werth ychwanegol gros Cymru, ac yn sicr nid yw gogledd Cymru’n bodoli mewn arwahanrwydd gogoneddus oddi wrth unrhyw un o ranbarthau Lloegr neu weddill Cymru. Felly, mae cysylltedd trawsffiniol yn gwbl hanfodol. Mae gwaith cydlynol, cydweithredol ar draws y ffin, fel yr hyn sy’n digwydd yng nghyd-destun Cynghrair Mersi a’r Ddyfrdwy a Growth Track 360, yn enghraifft gadarnhaol o bartneriaid trawsffiniol yn dod at ei gilydd ac yn cyfuno adnoddau’n effeithiol, yn gyflym a chyda phwrpas clir. Rwy’n awyddus iawn i adeiladu ar y math hwn o gydweithio ar y ddwy ochr i’r ffin, yn enwedig o ystyried yr amcanion cyffredin sydd gennym i sicrhau buddsoddi mewn moderneiddio rheilffyrdd, yn ogystal â’r cryfderau sectoraidd a rannwn a’r cyfleoedd y maent yn eu cynnig.
Pan gychwynnais weithio ar y portffolio economaidd, un o fy mlaenoriaethau cyntaf oedd cynnal uwchgynhadledd yng ngogledd Cymru â rhanddeiliaid trawsffiniol allweddol i geisio cael cytundeb ar ddiffinio gweledigaeth gydlynol ar gyfer gogledd Cymru sy’n alinio â Phwerdy’r Gogledd. Gwnaed hyn ym mis Gorffennaf ac fe’i trefnais am fy mod yn gweld cyfle i ni adeiladu bwa o ffyniant economaidd o Gaergybi yn y gorllewin sy’n cysylltu â Phwerdy’r Gogledd ac yn alinio economïau Lerpwl, Manceinion a Leeds gydag economi gogledd Cymru mewn ffordd gydlynus. Yn ddiweddar, rwyf wedi bod yn cynnal ymweliadau casglu ffeithiau yn y gogledd orllewin i gyfarfod ag unigolion allweddol ac i weld pa gyfleoedd sydd ar gael i rannu cyfleusterau strategol. Er enghraifft, ymwelais yn ddiweddar â chyfleusterau ymchwil gweithgynhyrchu uwch prifysgol Sheffield a chyfleusterau strategol eraill ar draws Pwerdy’r Gogledd.
Yn ychwanegol at hyn, rwyf wedi bod yn gweithio gyda’n partneriaid ar draws y ffin, yn ogystal ag ystod eang o randdeiliaid ar draws rhanbarth gogledd Cymru, ar ddatblygu cynnig i’r Trysorlys am gais twf i ogledd Cymru. Mae Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, gan weithio gyda Chyngor Busnes Gogledd Cymru, wedi bod yn datblygu’r cynigion, ac mae’n bwysig ein bod yn bwrw ymlaen â’r gwaith hwn yn gyflym. Mae angen i ni gael gwybod gan Drysorlys y DU, drwy ddatganiad yr hydref, pa un a fydd y drws yn cael ei agor i drafodaethau.
O ran buddsoddiad, rwy’n credu bod piblinell gref o brosiectau buddsoddi yn cael ei chynllunio, sy’n golygu y bydd ynni a gweithgynhyrchu uwch yn parhau i fod yn sbardunau twf allweddol i economi gogledd Cymru ac yn darparu cyflogaeth leol hirdymor am lawer o ddegawdau i ddod. Mae Jeremy Miles yn hollol gywir i dynnu sylw at arwyddocâd y prosiect morlyn llanw ym mae Abertawe, oherwydd os yw hwnnw’n llwyddiant, fe welem fwy o fôr-lynnoedd llanw’n cael eu datblygu yn ei sgil o amgylch Cymru yn y dyfodol, gan gynnwys, yn bwysig i ogledd Cymru, ym Mae Colwyn.
Fel rhan o raglen moderneiddio trafnidiaeth ehangach, mae swyddogion wedi dechrau gweithio ar ddatblygu’r weledigaeth ar gyfer metro gogledd Cymru, gan nodi ystod o ymyriadau posibl ar gyfer y tymor byr, y tymor canolig a’r tymor hir. Mae hyn yn gwbl allweddol os ydym o ddifrif am fanteisio i’r eithaf ar gysylltedd trawsffiniol, a nodwyd hyn gan y rhai a ddatblygodd Growth Track 360 ac sy’n cytuno bod y cysyniad o fetro gogledd Cymru yn hanfodol ar gyfer ein rhanbarth.
Ym mis Ebrill, cyflwynasom yr achos busnes strategol amlinellol ar gyfer trydaneiddio prif reilffordd gogledd Cymru, a ddatblygwyd, unwaith eto, gyda Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru a gyllidir gennym, Cynghrair Mersi a’r Ddyfrdwy a Phartneriaeth Menter Leol Swydd Gaer a Warrington. Rydym wedi bod yn gweithio gyda Merseytravel ar gyflwyno ailagoriad tro Halton, a fydd yn caniatáu trenau uniongyrchol rhwng Lerpwl, maes awyr Lerpwl, Caer a gogledd Cymru. Rydym hefyd wedi bod yn edrych ar opsiynau i gynyddu capasiti gweithredol rheilffyrdd yng ngorsaf Gyffredinol Wrecsam a Chaer a thrwy gyflwyno signalau bloc newydd i’r gogledd ac i’r de o Wrecsam. Rwy’n falch o allu cyfrannu swm ychwanegol o £10 miliwn, y cytunwyd arno gyda’r Democratiaid Rhyddfrydol fel rhan o gytundeb cyllideb blaenorol, i gefnogi llwybrau cyflymach rhwng y gogledd a’r de.
Yn ogystal â hyn, rydym wedi bwrw ymlaen â gwelliannau mawr i ffyrdd megis trydydd croesiad y Fenai ac wrth gwrs rydym yn asesu opsiynau i fynd i’r afael â thagfeydd ar yr A494 yng Nglannau Dyfrdwy y mae ein cyd-Aelod, Carl Sargeant, wedi bod yn pwyso amdano ers blynyddoedd lawer. Gallaf gadarnhau y bydd ymgynghoriad ar ddau opsiwn ar gyfer y prosiect ffordd £200 miliwn hwnnw’n dechrau ym mis Mawrth y flwyddyn nesaf. Cynllunnir buddsoddiad o oddeutu £32 miliwn hefyd ar gyfer uwchraddio cyffyrdd 15 ac 16 ar yr A55 fel ffordd o wella diogelwch ac amseroedd teithio.
Er mwyn parhau i fwrw ymlaen â’r gwaith hwn yng ngogledd Cymru, mae angen i ni ddwysáu ein gwaith cydweithredol ar y ddwy ochr i’r ffin, nid yn unig yn y sector cyhoeddus, ond hefyd yn y sector preifat. Rwy’n croesawu’r ddadl hon am ei bod yn ein helpu i wneud hynny. Rwyf hefyd yn croesawu’r ffaith fod grŵp trawsffiniol wedi’i sefydlu yma yn y Cynulliad ac rwy’n awgrymu, mewn ysbryd cydweithredol, fod y grŵp, y byddaf yn falch o ymuno ag ef, yn cyfarfod yn fuan gyda’r grŵp trawsffiniol hollbleidiol seneddol sydd newydd gael ei ffurfio hefyd.
Diolch yn fawr iawn. Dyna ddiwedd y trafodion am heddiw. Diolch.