Part of the debate – Senedd Cymru am 5:51 pm ar 2 Tachwedd 2016.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddechrau drwy ddiolch i’r Aelod dros Ddelyn am gyflwyno’r ddadl bwysig a pherthnasol hon heddiw ar economi gogledd Cymru, o gofio bod datganiad yr hydref ar ei ffordd yn fuan iawn? Rwy’n falch iawn o gael y cyfle i ymateb i’r sylwadau a wnaed gan nifer o’r Aelodau, ac rwy’n credu y dylwn gychwyn fy nghyfraniad ar ddyfodol gogledd Cymru drwy gydnabod cryfderau’r economi ranbarthol fel y mae heddiw.
Mewn nifer o feysydd, megis awyrofod, ynni a gweithgynhyrchu uwch, mae gogledd Cymru ar flaen y gad mewn diwydiant, ac o gymharu â Chymru yn gyffredinol, mae gan ogledd Cymru gyfradd gyflogaeth uwch, cyfradd ddiweithdra is a chyfradd anweithgarwch economaidd is na gweddill Cymru. Mae allbwn economaidd ac incwm aelwydydd y pen yn uwch yng ngogledd Cymru nag yng ngweddill Cymru. Rwyf am adeiladu ar y sylfaen gadarn hon, a dyna pam rydym yn rhoi camau gweithredu clir ar waith i annog datblygu economaidd pellach yng ngogledd Cymru. Mae’r Aelod dros Ddelyn yn gwbl gywir i dynnu sylw at y ffaith fod Lonely Planet wedi datgan yn ddiweddar mai gogledd Cymru yw’r pedwerydd rhanbarth gorau ar y blaned, ac ni allem obeithio am well cymeradwyaeth i waith Llywodraeth Cymru a gwaith Croeso Cymru yn gwella gogledd Cymru fel cyrchfan i ymwelwyr. Mae o werth mawr i’r economi ac mae hefyd yn ychwanegu at yr ymdeimlad o falchder o’u hardal sydd gan bobl gogledd Cymru.
Rydym wedi cydnabod ers tro bod gogledd ddwyrain Cymru’n elwa o ardal economaidd drawsffiniol sy’n ymestyn i ogledd orllewin Lloegr ac i lawr i ganolbarth Lloegr. Yn wir, mae ardal Mersi a’r Ddyfrdwy ar ei phen ei hun yn cynhyrchu’r hyn sy’n cyfateb i hanner holl werth ychwanegol gros Cymru, ac yn sicr nid yw gogledd Cymru’n bodoli mewn arwahanrwydd gogoneddus oddi wrth unrhyw un o ranbarthau Lloegr neu weddill Cymru. Felly, mae cysylltedd trawsffiniol yn gwbl hanfodol. Mae gwaith cydlynol, cydweithredol ar draws y ffin, fel yr hyn sy’n digwydd yng nghyd-destun Cynghrair Mersi a’r Ddyfrdwy a Growth Track 360, yn enghraifft gadarnhaol o bartneriaid trawsffiniol yn dod at ei gilydd ac yn cyfuno adnoddau’n effeithiol, yn gyflym a chyda phwrpas clir. Rwy’n awyddus iawn i adeiladu ar y math hwn o gydweithio ar y ddwy ochr i’r ffin, yn enwedig o ystyried yr amcanion cyffredin sydd gennym i sicrhau buddsoddi mewn moderneiddio rheilffyrdd, yn ogystal â’r cryfderau sectoraidd a rannwn a’r cyfleoedd y maent yn eu cynnig.
Pan gychwynnais weithio ar y portffolio economaidd, un o fy mlaenoriaethau cyntaf oedd cynnal uwchgynhadledd yng ngogledd Cymru â rhanddeiliaid trawsffiniol allweddol i geisio cael cytundeb ar ddiffinio gweledigaeth gydlynol ar gyfer gogledd Cymru sy’n alinio â Phwerdy’r Gogledd. Gwnaed hyn ym mis Gorffennaf ac fe’i trefnais am fy mod yn gweld cyfle i ni adeiladu bwa o ffyniant economaidd o Gaergybi yn y gorllewin sy’n cysylltu â Phwerdy’r Gogledd ac yn alinio economïau Lerpwl, Manceinion a Leeds gydag economi gogledd Cymru mewn ffordd gydlynus. Yn ddiweddar, rwyf wedi bod yn cynnal ymweliadau casglu ffeithiau yn y gogledd orllewin i gyfarfod ag unigolion allweddol ac i weld pa gyfleoedd sydd ar gael i rannu cyfleusterau strategol. Er enghraifft, ymwelais yn ddiweddar â chyfleusterau ymchwil gweithgynhyrchu uwch prifysgol Sheffield a chyfleusterau strategol eraill ar draws Pwerdy’r Gogledd.
Yn ychwanegol at hyn, rwyf wedi bod yn gweithio gyda’n partneriaid ar draws y ffin, yn ogystal ag ystod eang o randdeiliaid ar draws rhanbarth gogledd Cymru, ar ddatblygu cynnig i’r Trysorlys am gais twf i ogledd Cymru. Mae Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, gan weithio gyda Chyngor Busnes Gogledd Cymru, wedi bod yn datblygu’r cynigion, ac mae’n bwysig ein bod yn bwrw ymlaen â’r gwaith hwn yn gyflym. Mae angen i ni gael gwybod gan Drysorlys y DU, drwy ddatganiad yr hydref, pa un a fydd y drws yn cael ei agor i drafodaethau.
O ran buddsoddiad, rwy’n credu bod piblinell gref o brosiectau buddsoddi yn cael ei chynllunio, sy’n golygu y bydd ynni a gweithgynhyrchu uwch yn parhau i fod yn sbardunau twf allweddol i economi gogledd Cymru ac yn darparu cyflogaeth leol hirdymor am lawer o ddegawdau i ddod. Mae Jeremy Miles yn hollol gywir i dynnu sylw at arwyddocâd y prosiect morlyn llanw ym mae Abertawe, oherwydd os yw hwnnw’n llwyddiant, fe welem fwy o fôr-lynnoedd llanw’n cael eu datblygu yn ei sgil o amgylch Cymru yn y dyfodol, gan gynnwys, yn bwysig i ogledd Cymru, ym Mae Colwyn.
Fel rhan o raglen moderneiddio trafnidiaeth ehangach, mae swyddogion wedi dechrau gweithio ar ddatblygu’r weledigaeth ar gyfer metro gogledd Cymru, gan nodi ystod o ymyriadau posibl ar gyfer y tymor byr, y tymor canolig a’r tymor hir. Mae hyn yn gwbl allweddol os ydym o ddifrif am fanteisio i’r eithaf ar gysylltedd trawsffiniol, a nodwyd hyn gan y rhai a ddatblygodd Growth Track 360 ac sy’n cytuno bod y cysyniad o fetro gogledd Cymru yn hanfodol ar gyfer ein rhanbarth.
Ym mis Ebrill, cyflwynasom yr achos busnes strategol amlinellol ar gyfer trydaneiddio prif reilffordd gogledd Cymru, a ddatblygwyd, unwaith eto, gyda Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru a gyllidir gennym, Cynghrair Mersi a’r Ddyfrdwy a Phartneriaeth Menter Leol Swydd Gaer a Warrington. Rydym wedi bod yn gweithio gyda Merseytravel ar gyflwyno ailagoriad tro Halton, a fydd yn caniatáu trenau uniongyrchol rhwng Lerpwl, maes awyr Lerpwl, Caer a gogledd Cymru. Rydym hefyd wedi bod yn edrych ar opsiynau i gynyddu capasiti gweithredol rheilffyrdd yng ngorsaf Gyffredinol Wrecsam a Chaer a thrwy gyflwyno signalau bloc newydd i’r gogledd ac i’r de o Wrecsam. Rwy’n falch o allu cyfrannu swm ychwanegol o £10 miliwn, y cytunwyd arno gyda’r Democratiaid Rhyddfrydol fel rhan o gytundeb cyllideb blaenorol, i gefnogi llwybrau cyflymach rhwng y gogledd a’r de.
Yn ogystal â hyn, rydym wedi bwrw ymlaen â gwelliannau mawr i ffyrdd megis trydydd croesiad y Fenai ac wrth gwrs rydym yn asesu opsiynau i fynd i’r afael â thagfeydd ar yr A494 yng Nglannau Dyfrdwy y mae ein cyd-Aelod, Carl Sargeant, wedi bod yn pwyso amdano ers blynyddoedd lawer. Gallaf gadarnhau y bydd ymgynghoriad ar ddau opsiwn ar gyfer y prosiect ffordd £200 miliwn hwnnw’n dechrau ym mis Mawrth y flwyddyn nesaf. Cynllunnir buddsoddiad o oddeutu £32 miliwn hefyd ar gyfer uwchraddio cyffyrdd 15 ac 16 ar yr A55 fel ffordd o wella diogelwch ac amseroedd teithio.
Er mwyn parhau i fwrw ymlaen â’r gwaith hwn yng ngogledd Cymru, mae angen i ni ddwysáu ein gwaith cydweithredol ar y ddwy ochr i’r ffin, nid yn unig yn y sector cyhoeddus, ond hefyd yn y sector preifat. Rwy’n croesawu’r ddadl hon am ei bod yn ein helpu i wneud hynny. Rwyf hefyd yn croesawu’r ffaith fod grŵp trawsffiniol wedi’i sefydlu yma yn y Cynulliad ac rwy’n awgrymu, mewn ysbryd cydweithredol, fod y grŵp, y byddaf yn falch o ymuno ag ef, yn cyfarfod yn fuan gyda’r grŵp trawsffiniol hollbleidiol seneddol sydd newydd gael ei ffurfio hefyd.