<p>Bil Cymru</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol – Senedd Cymru am 2:22 pm ar 2 Tachwedd 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mick Antoniw Mick Antoniw Labour 2:22, 2 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

Diolch am y cwestiwn. Bydd yr Aelod yn gwybod bod yr ateb hwn yn ddarostyngedig i gonfensiwn sefydledig swyddogion y gyfraith, ond mae Llywodraeth Cymru yn parhau’n ymrwymedig i sicrhau’r setliad gorau posibl i Gymru. I’r diben hwnnw, mae ein swyddogion yn parhau i ymgysylltu â swyddogion Llywodraeth y DU wrth i’r Bil fynd drwy Dŷ’r Arglwyddi. Gallaf ddweud hefyd fy mod wedi cyflwyno darlithoedd ar Fil Cymru a materion ehangach yn ymwneud â mynediad at gyfiawnder ym Mhrifysgol Caerdydd, Prifysgol De Cymru a chynhadledd ddiweddar Cymru’r Gyfraith ym Mangor, ac mae copïau o’r areithiau hyn, gyda’r holl fanylion am y cynnwys, ar gael o ofyn amdanynt.