Part of 2. 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol – Senedd Cymru am 2:23 pm ar 2 Tachwedd 2016.
Diolch i’r Cwnsler Cyffredinol am ei wahoddiad caredig i ddarllen ei areithiau, ac rwy’n siŵr y bydd nifer o’r Aelodau yn gwneud hynny, cymaint o Aelodau ag a fydd yn gofyn y cwestiynau, rwy’n siŵr. [Chwerthin.] Pan edrychwn ar Fil Cymru a datblygiadau diweddar, gyda’r consesiwn ar ddatganoli cyflog ac amodau athrawon, gwelwn fod y drws wedi cael ei agor ychydig, o leiaf, i welliannau yn Nhŷ’r Arglwyddi o’r Bil gwreiddiol, ac rwy’n siŵr y bydd y Llywodraeth yn croesawu hynny gymaint ag a wnaf innau. Ond mae’n dal i fod un mater nad yw wedi cael sylw sy’n gwneud y Bil hwn, yn fy marn i, yn anghynaliadwy ac yn anaddas ar gyfer y dyfodol, sef mater awdurdodaeth gyfreithiol. Mae’r Prif Weinidog wedi dweud yn glir iawn ei fod yn credu y gallwn sefydlu awdurdodaeth gyfreithiol ar wahân neu benodol, a dyna fyddai’r ffordd orau ymlaen. Dywedodd hynny nos Lun ar ‘Sharp End’, a dyna pam roeddwn yn siomedig ddydd Llun yn Nhŷ’r Arglwyddi fod y llefarydd Llafur dros Gymru—nad yw yma, yn anffodus, er fy mod yn mynd i sôn amdani’n gwisgo’i het arall, sef y Farwnes Morgan o Drelái—wedi dweud ei bod yn gynamserol i sefydlu awdurdodaeth gyfreithiol ar wahân. A gaf fi awgrymu i’r Cwnsler Cyffredinol, er na fydd yn ymateb i’r math hwn o adroddiad gwleidyddol, ond a gaf fi awgrymu wrtho mai’r math hwn o ddryswch gan y Llywodraeth a’r blaid lywodraethol sy’n golygu bod y Ceidwadwyr draw yno yn rhoi tri thro am un i chi ar ddyfodol cyfansoddiad y Deyrnas Unedig? Ond, ar gwestiwn cyfreithiol, a yw’n cytuno â mi fod y proffesiwn cyfreithiol o leiaf, wedi cytuno ar safbwynt ystyriol ar hyn erbyn hyn, a’u bod yn credu ei bod yn anochel y bydd gennym ddwy awdurdodaeth gyfreithiol, un ar gyfer Lloegr ac un ar gyfer Cymru?