<p>Bil Cymru</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol – Senedd Cymru am 2:25 pm ar 2 Tachwedd 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mick Antoniw Mick Antoniw Labour 2:25, 2 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

Diolch i’r Aelod am y cwestiwn atodol, a phan fydd yn darllen fy araith fe wêl safbwyntiau go fanwl o fy meddwl fy hun ar fater awdurdodaeth gyfreithiol ac wrth gwrs, y cyfaddawd trosiannol a gyflwynwyd rwy’n meddwl, sef, ar hyn o bryd, y byddai awdurdodaeth benodol yn gwneud llawer iawn o synnwyr ac yn gwneud llawer i ddatrys yr anghysondebau sy’n bodoli. Rwy’n credu y bydd yr Aelod wedi fy nghlywed yn dweud o’r blaen am fy mhryderon ynglŷn â’r math hwn o fytholeg sydd wedi datblygu ynglŷn â’r syniad o awdurdodaeth, fel pe bai’n rhywbeth ar wahân i weinyddiaeth. Yn y gorffennol, pan oedd ond un ddeddfwrfa yng Nghymru a Lloegr, roedd yn gwneud synnwyr i gael un awdurdodaeth. Erbyn hyn mae gennym ddwy ddeddfwrfa. Rwy’n credu fy mod am roi rhybudd ymlaen llaw i chi ynglŷn â fy araith, ar gyfer pan fyddwch yn manteisio ar y cyfle i’w darllen—credaf ei bod yn anochel y byddwn yn symud tuag at awdurdodaeth benodol ac yn y pen draw, awdurdodaeth ar wahân.

Rwy’n siŵr y bydd yr Aelod hefyd wedi darllen gyda diddordeb y sylwadau a wnaed yn adroddiad diweddar Tŷ’r Arglwyddi ar Fil Cymru a’r sylwadau sy’n cael eu gwneud yno, a chredaf eu bod yn bwysig iawn, oherwydd nid yn unig eu bod yn gwneud nifer o sylwadau ynglŷn â bod y rhestr o gymalau cadw yn rhy helaeth a bod y prawf cyfreithiol sy’n llywodraethu pwerau’r Cynulliad mor gymhleth ac amwys fel ei fod yn rysáit ar gyfer dryswch ac ansicrwydd cyfreithiol, ond y pwynt allweddol y maent yn ei wneud mewn gwirionedd, a bachodd hynny fy sylw, oedd pan ddywedant fod y pwyllgor yn nodi nad oes unrhyw dystiolaeth o resymeg glir.

Credaf mai dyna’r broblem sylfaenol. Mae’n treiddio trwy Fil Cymru, nid yn unig o ran y rhestr o gymalau cadw, sy’n 35 tudalen, 195 o eitemau, ond hefyd o ran y ffordd o feddwl am y cysyniad o sut rydych yn gweinyddu ardal lle y mae gennych ddwy ddeddfwrfa a sut rydych yn sicrhau bod hynny’n effeithlon ac yn gyflenwol nid yn unig i’r ddeddfwrfa Gymreig, ond hefyd i’r ddeddfwrfa Seisnig.