Part of 2. 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol – Senedd Cymru am 2:30 pm ar 2 Tachwedd 2016.
Rwy’n croesawu adroddiad Comisiwn y Gyfraith, ac rwyf fi a’r Prif Weinidog yn ystyried yr argymhellion a’r goblygiadau yn ofalus. Byddaf yn darparu ymateb interim i’r comisiwn cyn diwedd y flwyddyn, a byddaf yn sicrhau ei fod ar gael i’r Aelodau.