<p>Erthygl 50 a’r Setliad Datganoli</p>

Part of 2. 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol – Senedd Cymru am 2:37 pm ar 2 Tachwedd 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Neil Hamilton Mr Neil Hamilton UKIP 2:37, 2 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol gadarnhau bod sbarduno erthygl 50 ond yn dechrau’r broses o drafod gyda’r UE ynglŷn â’r telerau y byddwn yn parhau i fasnachu â hwy neu’n cynnal unrhyw fath arall o berthynas rynglywodraethol? Nid oes ganddo ddim i’w wneud â datganoli o gwbl mewn gwirionedd, ar wahân i’r ffaith fod y broses o adael yr UE ynddi ei hun yn broses ddatganoli enfawr gan y byddwn yn ailwladoli pwerau sydd ar hyn o bryd ym Mrwsel naill ai yn San Steffan neu yng Nghaerdydd. Ac yn y cyd-destun hwn, mae’n gwella ac yn cadarnhau’r broses ddatganoli i Gymru, oherwydd bydd yn gwella pwerau’r Cynulliad hwn, a Llywodraeth Cymru yn wir.