Part of 2. 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol – Senedd Cymru am 2:38 pm ar 2 Tachwedd 2016.
Diolch i’r Aelod am y cwestiwn hwnnw. Gallaf ddweud wrth yr Aelod fy mod yn ystyried bod y pwyntiau y mae’n eu gwneud yn sylfaenol anghywir yn gyfreithiol ac yn gyfansoddiadol. [Torri ar draws.] Mae sbarduno erthygl 50 yn broses ddi-droi’n-ôl. Yr awdurdod ar hynny yw’r datganiad a wnaed gan Lywodraeth y DU yn yr achos diweddar y cyfeiriwyd ato mewn gwirionedd, a goblygiad hynny yw bod Deddf 1972 ar ôl proses ddwy flynedd yn peidio â bod yn weithredol. Bydd yr holl ddeddfwriaeth ddilynol a grëwyd o ganlyniad i hynny, yn ogystal â’r holl ddeddfwriaeth ryngberthynol sy’n ymwneud â chyfansoddiad Cymru a setliadau datganoli’r holl Lywodraethau datganoledig yn dod i ben mewn gwirionedd. Felly, mae’r Aelod nid yn unig yn anghywir; mae ei ddealltwriaeth o’r digwyddiadau’n ddiffygiol.