Part of the debate – Senedd Cymru am 2:39 pm ar 2 Tachwedd 2016.
Roedd y penderfyniad ddoe yn hynod o siomedig, ac mae ein meddyliau yn amlwg gyda’r gweithwyr yno a’u teuluoedd. Byddwn yn gweithio gyda’r cyfarwyddwyr a’r rheolwyr yn y lladd-dy, gyda golwg ar allu lleihau effaith y penderfyniad ar y safle ac unrhyw swyddi a gollir yn sgil hynny. Cynhelir trafodaethau pellach gyda chyfarwyddwyr y grŵp ehangach er mwyn nodi cyfleoedd a allai liniaru’r effeithiau gwaethaf, os daw’r cyfnod ymgynghori i ben gyda swyddi’n cael eu colli.