Part of the debate – Senedd Cymru am 2:40 pm ar 2 Tachwedd 2016.
Diolch i chi am eich ymateb, Ysgrifennydd y Cabinet, oherwydd yn sicr, roedd yn syndod mawr clywed y cyhoeddiad hwn brynhawn ddoe, a gwyddom ein bod bellach yn dechrau ar broses ymgynghori statudol 45 diwrnod o hyd. Yn gynharach yr wythnos hon roeddwn mewn cynhadledd, yn siarad yn Sefydliad Bevan, ar y cyflog byw, ac roeddwn yn sôn am arwyddion o gynnydd yn yr economi ym Merthyr—rydym wedi cael llawer o swyddi newydd yn dod i mewn i’r ardal—felly roedd hon yn ergyd wirioneddol i’r ardal, fel rydych eisoes wedi nodi. Os eir ymlaen â’r argymhellion hynny, bron nad oes raid dweud ein bod yn sôn am 350 o weithwyr a’u teuluoedd a fydd yn cael eu heffeithio, yn ogystal â’r effaith ar yr economi leol, a hyn oll yn y cyfnod cyn y Nadolig.
Rwy’n falch fod y cwmni wedi cytuno i gyfarfod â mi ac â Gerald Jones, yr AS, a gyda chi a’r Prif Weinidog, rwy’n credu, i edrych ar y sail dros eu hargymhellion a’r awgrym y byddant yn symud eu gwaith manwerthu cyfan i’r safle yng Nghernyw, sydd, o’r hyn rwy’n ei wybod ar hyn o bryd, i’w weld braidd yn afresymegol pan fo’r safle dosbarthu neu’r ganolfan ddosbarthu ar gyfer y ffatri gig ym Merthyr yn Avonmouth mewn gwirionedd. Os eir â’r safle pacio i Gernyw, yna nid yw’n ymddangos yn rhesymegol iawn fod gennych ladd-dy ym Merthyr, y gwaith pacio cig yng Nghernyw a’i fod yn cael ei gludo’n ôl i ganolfan ddosbarthu yn Avonmouth. Felly, rwy’n gobeithio y bydd pob un o’r pethau hyn yn cael eu hystyried pan fyddwn yn trafod hyn. Felly, a gaf fi ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet fy sicrhau y bydd Llywodraeth Cymru yn gwneud popeth a all i gefnogi’r bobl a allai gael eu heffeithio gan y cynigion hyn?