Part of the debate – Senedd Cymru am 3:22 pm ar 2 Tachwedd 2016.
Mae newid yn yr hinsawdd yn fygythiad byd-eang wrth gwrs, ac yn galw am ymateb byd-eang. Bydd cydweithrediad rhyngwladol, gyda phob cenedl yn gwneud ei rhan, yn hanfodol er mwyn lliniaru’r bygythiad y mae newid yn yr hinsawdd yn ei greu, ac i ymateb i effeithiau cynhesu ar ein byd. Bydd cytundeb Paris, fel y crybwyllwyd, yn dod i rym ymhen deuddydd, ar 4 Tachwedd. Ar ôl cael ei gytuno ym mis Rhagfyr 2015, cafodd ei gadarnhau’n hynod o gyflym o ystyried ei fod yn gytundeb rhyngwladol, sy’n gynsail, gobeithio, i gytundebau eraill a allai fod ar y gorwel yn y dyfodol cymharol agos. Mae’n awgrymu bod yna gydnabyddiaeth gynyddol o’r angen dybryd i wneud rhywbeth cyn y gwneir difrod anadferadwy i’n planed. Un canlyniad annisgwyl o’r gynhadledd oedd bod y nod ar gyfer allyriadau wedi ei godi y tu hwnt i’r hyn a gytunwyd yn flaenorol. Er bod penderfyniad eisoes wedi’i wneud i gadw tymereddau’n llawer is na 2 radd yn uwch na lefelau cyn-ddiwydiannol ac ymdrechu i gyfyngu ar y cynnydd yn y tymheredd i 1.5 gradd yn uwch na’r lefelau cyn-ddiwydiannol, mae’r cytundeb bellach yn gosod nod hefyd i allyriadau gyrraedd eu brig cyn gynted â phosibl ac i sicrhau cydbwysedd rhwng allyriadau o weithgarwch dynol a’u hamsugno gan ddalfeydd carbon rywbryd yn ystod ail hanner y ganrif.
Mae angen i ni weld Llywodraeth Cymru yn cyd-fynd â’r cynnydd hwn yn yr uchelgais byd-eang. Mae pob gwlad, beth bynnag fo’i maint, yn gallu chwarae rhan ystyrlon yn lleihau allyriadau, ond bydd angen ymagwedd newydd, radical arnom. Yn wir, ategaf alwad David Melding am chwyldro. Rydym wedi gweld Cymru yn llusgo ar ôl gwledydd eraill, fel y mae fy nghyd-Aelod Bethan Jenkins wedi sôn. Yn yr Alban, bu cynnydd gwirioneddol ac fel gwlad ddatganoledig, dylai fod yn ysbrydoliaeth i ni yma. Nid yw’n ddigon da nad yw allyriadau wedi lleihau mwy na 18 y cant yng Nghymru ers 1990, wrth i rew môr leihau ac wrth i lefelau’r môr godi.
Mae Deddf llesiant cenedlaethau’r dyfodol yn ymrwymo Cymru i fod yn genedl sydd, wrth iddi fynd ati i wneud unrhyw beth i wella lles economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru, yn ystyried a yw gwneud rhywbeth o’r fath yn gyfraniad cadarnhaol i les byd-eang. Rhaid i hyn fod yn fwy na dyhead dymunol ar bapur. Rhaid iddo arwain at roi camau go iawn ar waith, a hynny ar frys. Dylai Llywodraeth Cymru ddechrau drwy ategu cytundeb Paris cyn mynychu cynhadledd newid hinsawdd Marrakesh yn ddiweddarach y mis hwn. Byddai hyn yn arwydd fod Cymru o ddifrif ynglŷn â’i chyfrifoldeb i weithio i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd ochr yn ochr â’n cymdogion ac fel rhan o’r gymuned fyd-eang.
Bydd pleidlais y DU i adael yr Undeb Ewropeaidd yn gwneud pethau’n anos. Gallai gwaith ar y cyd â gweddill y cyfandir fod mewn perygl ar adeg pan fo’i angen yn fwy nag erioed, ond mae hefyd yn rhoi cyfle i Gymru ddilyn trywydd penodol a mwy uchelgeisiol. O ystyried yr awyrgylch gwleidyddol presennol yn Lloegr, ni fyddai’n syndod pe gwelem ddeddfwriaeth amgylcheddol yn cael ei glastwreiddio pan fydd y DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd. Gan fod cyfrifoldeb dros yr amgylchedd eisoes wedi’i ddatganoli, gall Cymru fod yn fwy radical a pharhau i fod yn gadarn yn ein hymrwymiad i leihau allyriadau. Ar y pwynt hwn—rwy’n teimlo mewn hwyliau optimistaidd iawn heddiw—rwy’n gobeithio y bydd Ysgrifennydd y Cabinet heddiw yn dangos a yw ei Llywodraeth yn barod i fanteisio ar y cyfle sy’n dod yn y blynyddoedd i ddod i Gymru gymryd ei lle ym mhob cynhadledd fyd-eang a sefydliad rhyngwladol fel aelod yn ei hawl ei hun, fel cenedl is-wladwriaethol, o ran newid yn yr hinsawdd a’r amgylchedd—y byddwn yn mynd ati i geisio aelodaeth i’n gwlad mewn sefydliadau byd-eang lle y bu’r Undeb Ewropeaidd yn ein cynrychioli yn y gorffennol efallai, ac i sicrhau nad yw’r Deyrnas Unedig yn siarad ar ein rhan ar ôl i ni adael yr Undeb Ewropeaidd.
Wrth gwrs, mae effaith gadael yr UE yn fwy na gwleidyddol yn unig. Bydd cyllid yr UE sydd ar hyn o bryd yn cefnogi prosiectau amgylcheddol yn cael ei golli. Bydd angen i raglenni fel Glastir, y cynllun rheoli tir cynaliadwy, ddod o hyd i gyllid amgen i gymryd lle’r cymorth o gronfa amaethyddol yr UE ar gyfer datblygu gwledig. Ni allwn adael i fentrau newid yn yr hinsawdd fel hyn ddiflannu pan ddaw’r cyllid o Ewrop i ben. Bydd canlyniadau methu gweithredu yn ddifrifol. Bydd yna effaith enfawr ar fywydau pobl ar draws y byd. Wrth i dymheredd byd-eang godi, bydd ardaloedd cyfannedd y byd yn newid, gan beryglu cyflenwadau bwyd a chan arwain at fwy byth o ddadleoli poblogaethau nag a welwn yn awr. Mae newid hinsawdd eisoes yn argyfwng rhyngwladol, ac ni all ond gwaethygu os na weithredwn. Rhaid i Gymru chwarae ei rhan ei hun, yn llawer mwy na maint ein poblogaeth, mewn ymdrechion byd-eang i atal y trychineb hwn rhag digwydd.