Part of the debate – Senedd Cymru am 4:18 pm ar 2 Tachwedd 2016.
Mae’n ddrwg gennyf. Wel, os felly, rwy’n ymddiheuro ac rwy’n llongyfarch y Llywodraeth ar ddilyn yr Alban. [Chwerthin.] Dylwn fod wedi mynd yn ddiplomydd a dweud y gwir.
Ond mae’r amrywiadau rhwng rhanbarthau ac etholaethau, wrth gwrs, ynghudd yn y ffigur cyffredinol hwnnw. Os edrychwn ar fy rhanbarth, Canolbarth a Gorllewin Cymru, yn erbyn cyfartaledd Cymru o 89.4 y cant ar gyfer 24 Mbps, mae’n mynd i lawr i 58 y cant ar gyfer Ceredigion; 61 y cant ar gyfer Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr; 61 y cant ar gyfer Sir Drefaldwyn; 63 y cant ar gyfer Brycheiniog a Maesyfed; a 74 y cant ar gyfer Dwyfor Meirionnydd. Ar gyfer Llanelli, mae’n 92 y cant a dyna’r unig etholaeth yn y rhanbarth cyfan sy’n uwch na chyfartaledd cenedlaethol Cymru. Rwy’n meddwl bod hyn yn gwbl annerbyniol yn ail ddegawd yr unfed ganrif ar hugain. Mae llwyddiant busnesau’n dibynnu’n helaeth heddiw, ac mae rhan fawr o ffyniant Cymru’n dibynnu ar gysylltedd ar y cyflymder cywir ac mae hyn yn ein dal yn ôl mewn cymaint o wahanol ffyrdd.
Un pwynt na chafodd ei wneud yn y ddadl heddiw y credaf ei fod yn haeddu mwy o sylw yw treiddiad band eang yn ôl grwpiau economaidd-gymdeithasol yng Nghymru. Yn ôl adroddiad Ofcom yn 2015—ac rwy’n deall y bydd datblygiadau diweddar wedi’i oddiweddyd, i raddau—ond yn 2015, dim ond 63 y cant o oedolion ar incwm aelwydydd o dan £17,500 y flwyddyn a oedd yn defnyddio band eang, o’i gymharu â 92 y cant o bobl ar gyflogau uwch na’r trothwy hwnnw o £17,500 y flwyddyn. Felly, mae allgáu digidol i’r rhai ar ben isaf y raddfa incwm yn realiti ac rwy’n meddwl y dylem i gyd gywilyddio, yn y Cynulliad hwn, ein bod wedi mynd i’r fath sefyllfa yn awr. Ni all gwella’r ystadegau hyn ddigwydd yn rhy fuan.
Cyfeiriodd Russell George yn ei araith at fag post gorlawn, neu fag post digidol, o gwynion, ac er ei fod yn ôl pob tebyg yn cael mwy o Sir Drefaldwyn na minnau, rwy’n cael rhywfaint o’i sir, ond hefyd, wrth gwrs, o siroedd eraill yn fy rhanbarth. Mae’n rhyfeddol mewn gwirionedd, o fewn pellter byr iawn i ardal gymharol drefol, sut y gall pobl fod bron yn gwbl amddifad o gysylltedd. Rwyf wedi aros yng ngwesty Waun Wyllt ym Mhum Heol ger Llanelli, er enghraifft, sydd ond tafliad carreg o Lanelli—a methu cael unrhyw signal ffôn symudol o gwbl. Mae’n broblem fawr, rwy’n meddwl, i lawer o westai gwledig a busnesau eraill, fod eu busnesau’n cael eu llyffetheirio gan ddiffyg yr hyn sydd bellach yn cael ei ystyried yn gwbl angenrheidiol ar gyfer bywyd modern, nid yn unig at ddibenion busnes, ond hefyd ar gyfer rhyngweithio rhwng pobl mewn cymaint o wahanol ffyrdd.
Mae gennyf gŵyn gan etholwr yn Llanwrda yn Sir Gaerfyrddin sy’n dweud ei fod wedi bod yn aros am ffeibr ers blynyddoedd lawer, ond mae ei gyflymder rhyngrwyd BT yn parhau i fod yn druenus, ar 0.2 Mbps. Dywed: ‘Rwy’n sylweddoli bod gosod ffeibr yn brosiect anodd, ond ar naw achlysur, mae Openreach neu Cyflymu Cymru wedi rhoi amserlen i mi ond wedyn wedi’i hymestyn ar ôl methu ei chyflawni. Ym mis Mehefin 2016, newidiwyd fy nyddiad gosod unwaith eto i fis Medi 2016’—ac mae’n dal heb gysylltiad, hyd yn oed yn awr. Rwy’n sylweddoli mai achos unigol yw hwnnw, ond pe bai ond yn un achos, yn hytrach nag un o lawer, yna gallem ei anwybyddu—nid anwybyddu, ond o leiaf gallem ei roi mewn persbectif. Ond oherwydd bod cymaint o’r achosion hyn, hyd yn oed yn awr, rwy’n credu y dylai’r Llywodraeth gael ei gwneud yn atebol am ei methiannau yn y gorffennol, a hefyd am ei diffyg brys presennol i fynd ati i gyflwyno rhaglen cysylltedd band eang cyflym iawn sy’n briodol ar gyfer Cymru gyfan.