Part of the debate – Senedd Cymru am 4:22 pm ar 2 Tachwedd 2016.
Mae’r ddadl hon yn amserol iawn, yn enwedig o ystyried rhai o’r anawsterau sydd i’w gweld bellach mewn perthynas â materion band eang ledled Cymru, ac nid yn lleiaf yn Aberconwy. Yn hytrach na meithrin cysylltedd, mae Llywodraeth Cymru bellach â rhaniad digidol mawr ar ei dwylo, gyda llawer wedi’u dal mewn loteri cod post o ran mynediad a chyflymder lawrlwytho. Nid oes ond 60 y cant o eiddo yng nghefn gwlad Cymru â mynediad at gyflymder sefydlog o 10 Mbps, o’i gymharu â 95 y cant mewn ardaloedd trefol. Mae gennyf lawer o etholwyr nad ydynt yn gallu cael cyflymder o 1 Mbps hyd yn oed, ac yn yr un modd, gan Gymru y mae’r gwasanaeth 3G gwaethaf o blith y gwledydd datganoledig. Problem benodol yn fy etholaeth yw bod llawer o’r eiddo yn ardaloedd gwledig Aberconwy wedi’u cysylltu â chabinetau sydd filltiroedd i ffwrdd o’u heiddo. O ganlyniad, hyd yn oed pan fydd y cabinetau wedi’u huwchraddio â ffeibr i’r cabinet, ni all safleoedd fanteisio ar y datblygiad digidol. Yn syml iawn, nid yw’r cysylltedd llinell ffôn a’r seilwaith sylfaenol yno, ac ni fydd yn syndod mai Conwy a Sir Ddinbych sydd â’r gyfradd isaf o ddefnydd o’r rhyngrwyd, gyda 18 y cant o bobl nad ydynt yn defnyddio’r adnodd hanfodol hwn sy’n cael ei ystyried bellach yn bedwerydd cyfleustod hanfodol.
Ar gyfer ein ffermwyr yng Nghymru, mae Llywodraeth Cymru wedi symud ceisiadau ffermio a chofrestriadau ar-lein, megis Taliadau Gwledig Cymru ac EID Cymru. Fodd bynnag, heb gysylltiad dibynadwy, mae llawer o ffermwyr bellach yn gorfod talu i rywun arall wneud y gwaith hwn neu wynebu cosbau difrifol o bosibl. Yn 2014, casglwyd bron i £0.5 miliwn o gosbau gan ein ffermwyr gweithgar: nid yw’n deg o gwbl. Mae’r methiant i ddarparu band eang cyflym iawn i lawer o ardaloedd anghysbell wedi ynysu ein cymunedau gwledig fwyfwy, gan greu bwlch digidol enfawr rhwng y rhai mwy ffodus a’r tlodion. Gyda banciau’n cau yn wythnosol, mae banciau’r ddinas yn tybio y bydd perchnogion busnesau’n mynd ar-lein, pe baent ond yn gallu gwneud hynny. Cymerir yn ganiataol bellach, felly, fod yn rhaid i bob cymuned gael mynediad at fand eang y genhedlaeth nesaf a blas o’r cysylltedd y mae rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig yn ei gymryd yn ganiataol. Mae 90 y cant o fusnesau bach yng Nghymru wedi dweud bod rhyng-gysylltiad dibynadwy yn hanfodol i’w gweithgarwch, ac fe’i hystyrir yr un mor bwysig ag unrhyw gyfleustod sylfaenol arall. Felly pam mai dim ond 58 y cant o gartrefi a busnesau sydd â mynediad at fand eang cyflym iawn sy’n gweithio’n effeithiol?
Ond wrth siarad, hoffwn ddiolch i’r Gweinidog Julie James AC am ei chyngor a’i chymorth gyda rhai o’r materion anodd rwyf wedi eu dwyn i sylw ei hadran yn ddiweddar. Rwy’n credu’n wir eich bod yn gwneud eich gorau i gyflawni’r targedau a addawyd a’r amcanion hynny. Ond rhaid i mi ddweud, mae angen ymagwedd gorfforaethol gan y Llywodraeth hon yng Nghymru, gan yr holl Ysgrifenyddion Cabinet a’r Prif Weinidog ei hun, er mwyn darparu mwy o adnoddau ac i’ch cynorthwyo i wneud eich gwaith a’r dasg o’ch blaen.
Yn ddiweddar iawn, cafodd gogledd Cymru ei enwi yn ‘Lonely Planet’s Best in Travel 2017’ fel un o’r ardaloedd gorau yn y byd—gwych. Ond os yw’r rhai yn y diwydiant lletygarwch a’n busnesau gwledig ond yn cynnig gwasanaeth rhyngrwyd trydydd dosbarth, mae hyn yn mynd i gael effaith negyddol. Amcangyfrifir y gallai cynnydd yng ngalluoedd digidol busnesau bach a chanolig ar draws y DU ryddhau adenillion economaidd o £18.8 miliwn. Mae’n rhaid cefnogi’r rhain er mwyn manteisio ar gyfle o’r fath.
Mae twf digidol yn allweddol i ysgogi arloesedd yn ein heconomi, gyda 12 y cant o gynnyrch domestig gros yn cael ei gynhyrchu drwy’r rhyngrwyd. Fodd bynnag, yng Nghymru, mae gennym seilwaith sydd wedi dyddio ar gyfer cynnal darpariaeth band eang cyflymach. Materion a grybwyllwyd yn lleol yn fy nghymorthfeydd yw nad yw BT Openreach a phrosiect y band eang cyflym iawn yn siarad â’i gilydd—gan weithio mewn seilos. Nid oes ymagwedd gydgysylltiedig pan fo anawsterau’n digwydd, ac mae llawer o daflu baich yn digwydd. Felly, mae’n dilyn, ar ran pobl a busnesau yn Aberconwy, fy mod am gofnodi fy siom eithafol fod Llywodraeth flaenorol Cymru wedi methu cyflawni ei huchelgais ei hun yn rhaglen lywodraethu 2011 i sicrhau y byddai pob eiddo preswyl a phob busnes yng Nghymru yn gallu cael band eang y genhedlaeth nesaf.
Mae’r datganiad diweddar gan y Gweinidog yn ei gwneud yn glir y gellid defnyddio £12.9 miliwn o gyllid a gynhyrchir drwy’r lefelau manteisio a ragwelir, gobeithio, i ddarparu mynediad band eang cyflym iawn cyn diwedd y contract presennol ar 27 o Ragfyr. Fodd bynnag, cytunaf na fydd yr arian ychwanegol hwn ond yn mynd ran o’r ffordd i fynd i’r afael â’r safleoedd sy’n weddill heb gysylltedd a rhaid rhoi mwy o ffocws ar berfformiad cyffredinol BT mewn perthynas â’u seilwaith. Unwaith eto, rwyf am ailadrodd fy mod yn gofyn i Lywodraeth Cymru gefnogi a gweithredu ar alwadau’r Gweinidog Julie James AC i geisio ymestyn y gwaith i 2018 a thu hwnt, i wynebu’r her a sicrhau bod y pedwerydd cyfleustod hwn yn cael ei ddarparu i bawb.