8. 7. Dadl UKIP Cymru: Canser yr Ysgyfaint

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:05 pm ar 2 Tachwedd 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 5:05, 2 Tachwedd 2016

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rydw i’n cynnig y gwelliant sydd wedi’i gyflwyno yn fy enw i. Mae gennym ni lawer iawn i’w ddathlu, heb os, yng Nghymru o ran triniaeth canser. Mae yna bobl yn goroesi heddiw na fyddai wedi gwneud hynny ychydig flynyddoedd yn ôl. Mae ymchwil blaengar yn digwydd yn ein prifysgolion ni, ond mae yna gymaint o le i wella. Mae amseroedd aros afresymol o hir am brofion diagnostig yn broblem sydd wedi bodoli ers blynyddoedd. Mae hynny wedi cyfrannu at y ffaith bod cyfraddau goroesi canser yng Nghymru yn is na’r cyfartaledd Ewropeaidd. Rydym ni’n gwybod hefyd mai darlun cymysg iawn ar y gorau sydd yna o ran gofal diwedd bywyd, ac rydym ni’n nodi’r ddau faes yna fel meysydd blaenoriaeth yn ein gwelliant byr ni heddiw.

Er fy mod i’n cytuno efo llawer o’r hyn sydd yn y gwelliant sydd wedi’i gyflwyno gan y Llywodraeth Lafur, allwn ni ddim gefnogi y geiriad fel ag y mae o. Efo Cymru yn rhif 28 mewn tabl o 29 gwlad Ewropeaidd, fel rydym ni wedi’i glywed, o ran cyfraddau goroesi, nid ydw i’n credu y gall y Llywodraeth fod yn sôn mewn gwirionedd am welliant sylweddol. Mae cyfraddau goroesi yn gwella yn gyffredinol ar gyfer canser. Mae hynny’n adlewyrchu gwelliannau mewn triniaeth, ac mae’n adlewyrchu gwaith caled gan feddygon a gan nyrsys, a hynny ar draws Ewrop i gyd. Y gwir amdani yma yng Nghymru ydy bod diagnosis yn dal i ddigwydd yn rhy hwyr mewn gormod o achosion, a bod cyfraddau goroesi yn is yma na mewn gwledydd sydd â chyfraddau llawer iawn uwch o bobl sydd yn ysmygu.

Wrth gwrs, allwn ni ddim sôn am ganser yr ysgyfaint heb sôn am ysmygu. Mae’n werth nodi yn fan hyn, rwy’n meddwl, bod arweinydd interim y blaid sydd wedi cyflwyno’r cynnig yma heddiw wedi gwadu, mae’n debyg, y cysylltiad yma rhwng ysmygu a chanser, ac wedi dweud ‘doctors have got it wrong’. Mi allwn ni ddewis, os ydym ni’n dymuno, anwybyddu y sylwadau hynny a’u gweld nhw fel ymgais i ddenu sylw a dim byd arall, ond mae yna bwynt difrifol iawn iawn yn fan hyn. Mi wnaeth y diwydiant tybaco dreulio degawdau a gwario miliynau lawer yn gwadu bod eu cynnyrch nhw yn lladd pobl, mewn modd tebyg i beth welwn ni efo gwadwyr newid hinsawdd heddiw, fel rydym ni wedi cael enghraifft arall ohono eto gan y blaid gyferbyn yma yn y Cynulliad. O ganlyniad, mi gymerodd y neges am ysmygu a chanser lawer hirach i dreiddio i feddyliau y cyhoedd. Mi oedd yna oedi llawer gormod cyn i lywodraethau weithredu, a’r canlyniad oedd bod miliynau o bobl wedi colli eu bywydau yn y cyfamser. Mae’n dal i ddigwydd mewn rhai gwledydd lle mae’r lobi tybaco yn dal i allu prynu dylanwad. Felly, pan fo gwleidydd amlwg yn dweud pethau fel hyn, mae’n tanseilio yr ymdrechion i atal canser ac yn peryglu bywydau, ac mi ddylai’r blaid gyferbyn ystyried hynny, ynghyd â’u hagweddau tuag at wyddoniaeth ac at arbenigwyr yn gyffredinol.

Mae’r niferoedd sy’n ysmygu wedi gostwng, wrth gwrs, ac yn debyg iawn, gobeithio, o ostwng ymhellach, ond mae wedi cymryd degawdau i gyrraedd at y pwynt yma, ac os gwnewch chi faddau i fi am eiliad i fynd ar ychydig bach o ‘tangent’, mae yna wers, rydw i’n meddwl, y gallwn ni ei dysgu o hynny ar gyfer gordewdra a phroblemau eraill sy’n cael eu gweld yn aml fel problemau sy’n deillio o ffordd o fyw. Y wers ydy allwn ni ddim dim ond dweud wrth bobl i newid eu ffordd o fyw; mae’n rhaid i ni eu helpu nhw i wneud hynny. Nid yw pŵer ewyllys yn aml yn ddigon yn ei hun i alluogi rhywun i roi’r gorau i ysmygu. Mae angen help patsys neu, ie, e-sigarennau i roi’r gorau iddi, a chamau fel trethiant uwch, gwaharddiadau ar ysmygu mewn llefydd cyhoeddus er mwyn dad-normaleiddio ac yn y blaen. Efallai y dylem fod yn meddwl am ordewdra yn yr un ffordd. Nid yw ewyllys a phŵer ewyllys ddim yn ddigon i daclo gordewdra ym mhob achos—mae angen help. Mae angen i Lywodraethau weithredu.

Yn ôl at yr hyn rydym ni’n ei drafod heddiw, mi ddylem ni hefyd, wrth gwrs, gofio bod canser yr ysgyfaint yn taro pobl sydd ddim yn ysmygu ac erioed wedi ysmygu. Mae’r Ceidwadwyr wedyn yn tynnu sylw at ferched yn benodol yn eu gwelliant nhw, gwelliant 2. Yn sicr, mi wnawn ni gefnogi’r gwelliant hwnnw ac mi gefnogwn ni welliant 4 hefyd. Mae codi ymwybyddiaeth a brwydro’r stigma y cyfeiriodd llefarydd y Ceidwadwyr ato fo yn bethau mae’n rhaid i ni fynd i’r afael â nhw. Beth bynnag ydy achos yr afiechyd, pwy bynnag sydd yn dioddef, mae pob un ohonom ni, rydw i’n gobeithio, yn gytûn mai cynnig y gofal gorau posib ydy’r nod ac anelu at y diwrnod lle byddwn ni mewn gonestrwydd yn gallu dweud ein bod ni wedi ennill tir sylweddol yn y frwydr yma.