Part of the debate – Senedd Cymru am 5:12 pm ar 2 Tachwedd 2016.
Rwy’n falch iawn o gymryd rhan yn y ddadl hon. Mae canser yr ysgyfaint yn her enfawr i’r gwasanaeth iechyd yng Nghymru, fel y mae ar draws y DU a ledled y byd, ond rwy’n credu ei bod yn bwysig iawn cofio y gellir gwneud cynnydd a bod cynnydd yn cael ei gyflawni. Rwy’n credu nad oes ond angen i chi edrych yn ôl ar y cyfraddau goroesi ar gyfer mathau eraill o ganser. A ydych yn cofio sut roedd hi ar ganser y fron heb fod cymaint â hynny’n ôl? Mae’r cyfraddau goroesi ar gyfer canser y fron wedi gwella’n ddramatig. Mae pob cam bach sy’n cael ei gymryd gyda chanser yr ysgyfaint yn mynd â ni gam yn agosach at gael cyfraddau goroesi llawer gwell. Rwy’n credu ein bod i gyd yn ymwybodol fod llawer o ganserau bellach wedi datblygu i fod yn glefydau cronig, fod llawer o bobl yn byw gyda chanser, a dyna’r sefyllfa rwy’n credu y dylem symud tuag ati, ac rydym yn symud tuag ati, gyda chanser yr ysgyfaint.
Rwy’n gweithio’n agos iawn gyda chanolfan ganser Felindre yng Ngogledd Caerdydd yn fy etholaeth, ac maent wedi tynnu fy sylw at y cyfleoedd sydd ar gael gyda’r triniaethau newydd ar gyfer canser yr ysgyfaint a’r gwelliannau a ddaeth yn sgil ymchwil a thrwy gael mynediad at brofion clinigol cenedlaethol. Credaf ei bod yn bwysig cofio hefyd, pan fyddwn yn sôn am ganser yr ysgyfaint, fod yna wahanol fathau o ganser yr ysgyfaint. Ond mae enghreifftiau o’r triniaethau cyffuriau newydd ar gyfer canser yr ysgyfaint, a fydd ar gael yng Nghymru dros yr ychydig fisoedd nesaf ar gyfer y gwahanol fathau o ganser yr ysgyfaint, yn cynnwys crizotinib, a gymeradwywyd gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal ym mis Medi 2016, a chymeradwywyd osimertinib gan Grŵp Strategaeth Meddyginiaethau Cymru ym mis Hydref. Fis diwethaf yn unig oedd hynny; mae’r rhain yn gymeradwyaethau diweddar iawn. Mae triniaeth gynnal pemetrexed bellach wedi cael ei chymeradwyo gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal ym mis Awst, a bydd hwnnw ar gael gennym yn fuan. Felly, mae’n gyffrous iawn fod gennym y datblygiadau newydd hyn ar gyfer triniaeth.
Mae cleifion yn Felindre hefyd yn elwa o gael mynediad at brofion clinigol a mwy o gyfleoedd i gael triniaethau megis y prawf clinigol Matrix, sy’n ymwneud â chyflwyno meddyginiaeth bersonol wedi’i thargedu, yn seiliedig ar gynnal profion genetig ar eu canser. Mae’r rhain i gyd yn ddatblygiadau sy’n digwydd yn gyflym iawn, ac mae’n rhaid i ni wneud yn siŵr ein bod yn gallu manteisio arnynt, fel y gwn ein bod, a chyda’r gronfa driniaeth newydd y mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo iddi, bydd mynediad at gyffuriau newydd yn sicr yn haws.
Rwy’n credu ei bod hefyd yn bwysig dweud ein bod yn gwneud gwaith ymchwil eithriadol yng Nghymru. Roeddwn am dynnu sylw at rywbeth sydd wedi digwydd yn Felindre yn fy etholaeth. Mae myfyrwyr PhD o Felindre wedi cyflawni ymchwil sydd wedi arwain at brofion DNA di-gell ar gyfer cleifion canser yr ysgyfaint, sy’n defnyddio profion gwaed yn lle biopsïau. Cynhelir profion ar gleifion o Loegr yn ogystal â chleifion o Gymru yng Nghaerdydd, yn y ganolfan eneteg ranbarthol. Felly, rwy’n credu ei fod yn bwysig; nid ydym am fychanu ein hunain. Mae’r pethau gwirioneddol arloesol hyn yn digwydd yng Nghymru, ac mae’n bwysig ein bod yn cydnabod hynny.
Felly, ceir datblygiadau calonogol, ond rydym i gyd yn gwybod mai’r mater allweddol yw atal a diagnosis cynnar, a rhoddwyd sylw da i hynny yma heddiw. Rwy’n credu ein bod yn derbyn bod cysylltiad rhwng ysmygu a chanser yr ysgyfaint, ac rwy’n llongyfarch Llywodraeth Cymru ar ei gwaith i leihau ysmygu ac i atal pobl ifanc rhag dechrau yn y lle cyntaf, oherwydd credaf fod hynny’n hanfodol—ac i’w hamddiffyn rhag mwg ail-law. Rwy’n credu bod y ddeddfwriaeth a gyflawnwyd yn y meysydd penodol hyn wedi bod yn hollol arloesol. Mae wedi trawsnewid y gwasanaeth iechyd yn fawr. Rwy’n arbennig o falch ei bod yn anghyfreithlon, ers 1 Hydref 2015, i ysmygu mewn cerbydau preifat os oes rhywun o dan 18 oed yn bresennol. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at Fil iechyd y cyhoedd, pan fydd ysmygu sigaréts, fel y gwyddom, yn cael ei gyfyngu ymhellach mewn parciau, ar dir ysbytai a mannau eraill. Mae hyn i gyd wedi digwydd gyda chytundeb a chefnogaeth y cyhoedd.
Felly, rydym wedi bod yn gweithio ar atal. Mae angen i ni gael diagnosis cynnar, ac rwyf hefyd yn falch iawn ein bod wedi gweld lansio ymgyrch Bod yn Glir am Ganser i helpu i godi ymwybyddiaeth o ganser yr ysgyfaint drwy wneud diagnosis o ganser yr ysgyfaint a’i drin yn gynt. Felly, mae llawer o waith ar y gweill, ac fe hoffwn ddirwyn i ben, mewn gwirionedd, drwy ddiolch i Lywodraeth Cymru am ei hymrwymiad mawr i ddatblygu’r ganolfan driniaeth canser newydd yn Felindre, lle y mae llawer iawn o gyfalaf yn mynd i mewn i sicrhau y bydd y math o wasanaethau y byddwn yn gallu eu cynnig i bob claf canser, gan gynnwys cleifion canser yr ysgyfaint sy’n gorfod mynd i’r ysbyty fel cleifion mewnol, yn driniaeth o’r radd flaenaf.