Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:30 pm ar 8 Tachwedd 2016.
Diolchaf i'r Prif Weinidog am ei ateb. Mae'n ddyn gwybodus, ac rwy’n siŵr ei fod yn gwybod bod cyfarfod cyhoeddus yn Nhrefyclo heno i ystyried y cynnig gan Gyngor Sir Powys i gau'r ganolfan hamdden yn Nhrefyclo. Bydd hyn yn newyddion drwg iawn i'r dref, wrth gwrs. Mae Mary Strong, y pennaeth yn yr ysgol gynradd, yn dweud bod yr ysgol yn ei defnyddio bob dydd; ei bod yn cadw’r gymuned gyda’i gilydd, sy’n bwysig, gan fod cymunedau fel Trefyclo wedi colli cymaint dros y blynyddoedd; a hefyd ei bod yn anodd iawn teithio ar gludiant cyhoeddus yn y rhan hon o'r wlad, felly mae cael hyn ar garreg y drws, wrth gwrs, yn adnodd lleol hanfodol. A wnaiff ef annog Cyngor Sir Powys i gadw canolfan hamdden Trefyclo ar agor?