1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 8 Tachwedd 2016.
1. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi canolfannau hamdden yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OAQ(5)0246(FM)
Gwnaf. Awdurdodau lleol sy’n gyfrifol am ganolfannau hamdden cyhoeddus. Maen nhw’n darparu cyllid ar gyfer canolfannau hamdden drwy'r setliad refeniw ac, wrth gwrs, mater iddyn nhw yw penderfynu ar batrwm gwasanaethau ar draws ardaloedd eu siroedd.
Diolchaf i'r Prif Weinidog am ei ateb. Mae'n ddyn gwybodus, ac rwy’n siŵr ei fod yn gwybod bod cyfarfod cyhoeddus yn Nhrefyclo heno i ystyried y cynnig gan Gyngor Sir Powys i gau'r ganolfan hamdden yn Nhrefyclo. Bydd hyn yn newyddion drwg iawn i'r dref, wrth gwrs. Mae Mary Strong, y pennaeth yn yr ysgol gynradd, yn dweud bod yr ysgol yn ei defnyddio bob dydd; ei bod yn cadw’r gymuned gyda’i gilydd, sy’n bwysig, gan fod cymunedau fel Trefyclo wedi colli cymaint dros y blynyddoedd; a hefyd ei bod yn anodd iawn teithio ar gludiant cyhoeddus yn y rhan hon o'r wlad, felly mae cael hyn ar garreg y drws, wrth gwrs, yn adnodd lleol hanfodol. A wnaiff ef annog Cyngor Sir Powys i gadw canolfan hamdden Trefyclo ar agor?
Byddwn yn wir. Hynny yw, maen nhw wedi cael setliad gwell nag y byddent wedi ei ddisgwyl. Hyd yn oed os nad ydyn nhw’n gallu parhau i ariannu'r ganolfan hamdden, ceir enghreifftiau ledled Cymru lle mae'r gymuned leol wedi llwyddo i gymryd y ganolfan hamdden drosodd. Serch hynny, o ystyried y ffaith bod eu sefyllfa ariannol yn well nag y byddent wedi ei ddisgwyl, yna byddwn yn eu hannog i archwilio pob ffordd o ddarparu gwasanaeth i'r gymuned leol.
Wrth gwrs, Brif Weinidog, mae canolfannau hamdden yn chwarae rhan bwysig mewn adsefydlu. Mae pobl sydd wedi cael trawiad ar y galon neu strôc, sy’n dioddef o ddiabetes, neu sydd â chlefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint yn bobl sydd, yn aml iawn, yn mynd i ganolfan hamdden ar ôl iddyn nhw gyflawni eu chwe wythnos o ffisiotherapi gorfodol. Sut ydych chi’n cysoni’r angen iechyd y cyhoedd hwnnw â'r ffaith bod cynifer o ganolfannau hamdden dan fygythiad gan awdurdodau lleol ar hyn o bryd? A beth ydych chi'n ei feddwl y gallai eich Llywodraeth ei wneud i sicrhau bod awdurdodau lleol yn sylweddoli bod hon yn rhan bwysig iawn o rywun yn gwella a byw bywyd mwy diogel, hapus ac integredig, yn y dyfodol?
Wel, yn wir, rydym ni’n gwybod bod presgripsiynau cymdeithasol yn hynod bwysig ac nad ymyrraeth fferyllol yw popeth i bawb. Dyna pam mae'n bwysig bod rhwydwaith o ganolfannau hamdden yn cael ei gynnal ar draws Cymru gyfan. Er nad yw hamdden yn ddyletswydd statudol i awdurdodau lleol, mae hamdden, serch hynny, yn fater eithriadol o bwysig, yn lleol ac yn bwysig er mwyn galluogi pobl i barhau i fyw bywydau iach.
Brif Weinidog, a ydych chi’n cytuno â mi ein bod ni’n aml yn gweld llawer iawn o hawliadau y mae ymgynghorwyr ar gyflogau uchel yn anghytuno â nhw wedyn o ran trosglwyddo’r ddarpariaeth o wasanaeth. Rwy’n sôn yn benodol yma am adroddiad Unsain yn erbyn trosglwyddo'r gwasanaethau cyfleusterau hamdden yn Sir Benfro, nad yw, yn eu geiriau nhw, er budd pennaf y bobl a fyddai eisiau cael mynediad at y gwasanaethau hynny. Ni fyddai chwaith, o reidrwydd, er budd pennaf y bobl hynny sy'n gweithio yn y gwasanaethau hynny ar hyn o bryd. A gaf i ofyn i chi, Brif Weinidog, i geisio rhywfaint o sicrwydd gan Gyngor Sir Penfro, pan eu bod yn ceisio trafod eu ffordd drwy drosglwyddo’r hyn, yn fy marn i, na ddylai gael ei drosglwyddo yn y lle cyntaf?
Wel, mater i’r cyngor yw hwn, yn y pen draw, wrth gwrs. Ond, o safbwynt Llywodraeth Cymru, ni fyddem byth eisiau gweld sefyllfa yn codi lle mae staff yn canfod bod ganddyn nhw delerau ac amodau israddol o ganlyniad i newidiadau i'r ffordd y darperir y gwasanaeth. Ein dymuniad ni fyddai i wasanaethau gael eu darparu’n fewnol.
Mae’n anodd gweld sut y gallwn gyflawni amcanion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 heb fod gan bobl ifanc, a phobl yn gyffredinol yn y gymuned, fynediad at ganolfannau hamdden, ac yn benodol at gyfleusterau nofio, sy’n rhan o’r cwricwlwm cenedlaethol. Felly, fel sydd newydd gael ei grybwyll, mae cyngor disgyblion ysgol Trefyclo wedi ysgrifennu ataf i a nifer o Aelodau eraill yn mynegi eu siom, mewn tref ar y ffin sydd ar wahân i drefi eraill, eu bod yn colli adnodd mor bwysig. Rwy’n croesawu’r ffaith eich bod chi wedi dweud y dylai’r adnodd hwn gael ei gadw ar agor. Maent wedi cael setliad ariannol gwell, yn rhannol oherwydd y cytundeb rhwng Plaid Cymru â’r Llywodraeth Lafur. Beth allwch chi ei wneud fel Llywodraeth i roi cyngor penodol i Gyngor Sir Powys ynglŷn â’r posibiliad o symud yr adnodd hwn i ddwylo’r gymuned, achos mae’n amlwg bod y gymuned yn trysori’r adnodd hwn ac y bydden nhw’n cadw’r pwll hwnnw ar agor?
Wel, rydym ni wedi ei gwneud yn glir y dylai’r cyngor ystyried yn fanwl y posibilrwydd o gadw’r ganolfan ar agor, ond, os na, felly, ystyried sicrhau bod yna gyfle i’r gymuned i redeg y ganolfan ei hunan. Mae yna enghreifftiau o hynny dros Gymru yn gyfan gwbl. Wrth gwrs, beth fyddai neb yn moyn gweld yw gweld canolfan yn cael ei chau heb fod yr opsiynau hynny wedi cael eu hystyried.
Mae cwestiwn 2 [OAQ(5)0247(FM)] wedi’i dynnu yn ôl. Cwestiwn 3, Hannah Blythyn.