Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:35 pm ar 8 Tachwedd 2016.
Mae'r amgylchedd gwleidyddol presennol o gwmpas y byd yn golygu bod cysylltiadau â'r Unol Daleithiau yn bwysicach nag erioed—yn economaidd, yn wleidyddol ac yn ddiwylliannol. Rydym ni’n cynnal presenoldeb cryf yn yr Unol Daleithiau, gan gynnwys agor ein swyddfa ddiweddaraf yn Atlanta, ac ymwelais â’r Unol Daleithiau ym mis Medi ac rwy’n bwriadu ymweld eto y flwyddyn nesaf.