1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 8 Tachwedd 2016.
3. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am strategaeth Llywodraeth Cymru i gryfhau'r cysylltiadau rhwng Cymru a'r Unol Daleithiau? OAQ(5)0248(FM)
Mae'r amgylchedd gwleidyddol presennol o gwmpas y byd yn golygu bod cysylltiadau â'r Unol Daleithiau yn bwysicach nag erioed—yn economaidd, yn wleidyddol ac yn ddiwylliannol. Rydym ni’n cynnal presenoldeb cryf yn yr Unol Daleithiau, gan gynnwys agor ein swyddfa ddiweddaraf yn Atlanta, ac ymwelais â’r Unol Daleithiau ym mis Medi ac rwy’n bwriadu ymweld eto y flwyddyn nesaf.
Diolch yn fawr, Brif Weinidog. Mae gan Gymru lawer o gysylltiadau hanesyddol â'r Unol Daleithiau, ac roedd nifer o lofnodwyr y datganiad o annibyniaeth yn Gymry. Ac rwy’n siŵr y byddwch chi’n cytuno bod llawer i'w wneud o’r cysylltiadau hanesyddol hyn i hybu masnach a thwristiaeth, y cyntaf yn bwysicach fyth yng ngoleuni Brexit. Yn wir, mae heddiw o bosibl yn ddiwrnod hanesyddol yn yr Unol Daleithiau, wrth i ddinasyddion fwrw pleidlais mewn etholiad y byddaf i wedi chwarae dim ond rhan fach iawn ynddi, yn Philadelphia, pryd y gallem weld, am y tro cyntaf, menyw yn cyrraedd y Tŷ Gwyn fel Arlywydd. Mae pwy sy'n ennill y Tŷ Gwyn yn cael effaith y tu hwnt i ffiniau'r Unol Daleithiau. Gyda hynny mewn golwg, rwy'n siŵr y bydd llawer yma yn ymuno â mi i obeithio y bydd America yn dewis Hillary Clinton yn hytrach na’r dewis arall ac y bydd gobaith yn maeddu casineb. A yw'r Prif Weinidog yn credu, yn 2016, ei bod hi’n bryd i ni weld Arlywydd benywaidd yn yr Unol Daleithiau?
Materion i boblogaeth yr Unol Daleithiau yw’r rhain, wrth gwrs. Ond, gallaf weld y pwynt cryf y mae hi’n ei wneud. I mi, yr hyn sy’n hynod bwysig yw bod y berthynas gyda'r Unol Daleithiau yn parhau, nad yw'r Unol Daleithiau yn troi’n wlad ymynysol, genedlaetholaidd, ac na fydd dim yn digwydd ar ôl yr etholiad sy'n peryglu ymrwymiad yr Unol Daleithiau i NATO. Rwy’n meddwl bod y rhain i gyd yn faterion sy'n peri pryder i ni, a gallaf yn sicr ddeall yn iawn y teimlad cryf, ar ôl torri tir newydd y tro diwethaf yn 2008, bod angen torri tir newydd arall y tro hwn.
Brif Weinidog, rwy’n siŵr y byddech yn cytuno â fi fod sir Benfro yn cynhyrchu llawer iawn o gynnyrch gwych sydd yn rhoi sir Benfro, ac yn wir, Cymru, ar y map, ac mae’n hanfodol bod y Llywodraeth yn gwneud popeth yn ei gallu i hyrwyddo ein cynnyrch ymhellach i ffwrdd i wledydd fel yr Unol Daleithiau. Rwy’n sylweddoli bod Llywodraeth Cymru yn adolygu ei chefnogaeth allforio ar gyfer busnesau bwyd a diod, ond a allwch chi ddweud wrthym ni ba gymorth ychwanegol y gall Llywodraeth Cymru ei gynnig i gynhyrchwyr bach sydd yn edrych i allforio eu cynnyrch i wledydd fel America?
Mae yna gyngor ar gael drwy’r tîm sydd yma yng Nghaerdydd, ond hefyd cyngor ar gael o’r swyddfeydd yn America. Bydd yna grŵp yn mynd i America yn hwyrach y mis hwn, sef ‘trade mission’, er mwyn gweld pa fath o ddiddordeb sydd ar gael o fuddsoddwyr mewn i Gymru, ond hefyd, wrth gwrs, i sicrhau marchnadoedd newydd i gynhyrchwyr o Gymru.
Awgrymodd yr Arlywydd sy’n gadael y gallai’r DU ganfod ein hunain yng nghefn y ciw pe byddem ni’n pleidleisio dros Brexit. O gofio’r hyn sydd wedi digwydd gyda chanlyniad y refferendwm, ethol Arlywydd newydd heddiw, ond hefyd yr arafu yn nhrafodaethau’r bartneriaeth masnach a buddsoddi trawsiwerydd a'r heriau aruthrol y maen nhw’n eu hwynebu, a yw hi'n bosibl mewn gwirionedd y gallai Cymru o fewn y Deyrnas Unedig ein gweld ni’n cymryd lle’r Undeb Ewropeaidd a mynd i flaen y ciw?
Rwy’n amau hynny. Mae ei blaid ef wedi bod yn gryf iawn yn erbyn TTIP am resymau nad ydynt yn Ewropeaidd. Nawr, os yw TTIP yn gytundeb a fydd yn cael ei gyflwyno i’r DU, yna byddai ei wrthwynebiadau yn parhau. Rwyf wedi clywed gwrthwynebiadau gan lawer sydd wedi cwestiynu gallu llywodraethau i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus gyda TTIP fel y mae ar hyn o bryd, felly rwy’n tybio y bydd yr un mor chwyrn yn ei wrthwynebiad i TTIP pe byddai'n gytundeb rhwng y DU a’r Unol Daleithiau ag y byddai wedi bod pe byddai wedi bod yn gytundeb rhwng yr UE a’r Unol Daleithiau.