Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:36 pm ar 8 Tachwedd 2016.
Materion i boblogaeth yr Unol Daleithiau yw’r rhain, wrth gwrs. Ond, gallaf weld y pwynt cryf y mae hi’n ei wneud. I mi, yr hyn sy’n hynod bwysig yw bod y berthynas gyda'r Unol Daleithiau yn parhau, nad yw'r Unol Daleithiau yn troi’n wlad ymynysol, genedlaetholaidd, ac na fydd dim yn digwydd ar ôl yr etholiad sy'n peryglu ymrwymiad yr Unol Daleithiau i NATO. Rwy’n meddwl bod y rhain i gyd yn faterion sy'n peri pryder i ni, a gallaf yn sicr ddeall yn iawn y teimlad cryf, ar ôl torri tir newydd y tro diwethaf yn 2008, bod angen torri tir newydd arall y tro hwn.