Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:40 pm ar 8 Tachwedd 2016.
Tri pheth—byddwn yn disgwyl i’r rhan fwyaf o fusnesau weld lleihad i’w gwerth ardrethol, dim ond oherwydd y ffaith fod y prisiad diwethaf wedi digwydd yn 2008, cyn, wrth gwrs, argyfwng economaidd y byd a gafwyd wedi hynny. Yn ail, fodd bynnag, wrth gwrs, bydd ein cynllun rhyddhad ardrethi i fusnesau bach yn parhau i gyrraedd mwy o fusnesau—canran fwy o fusnesau—na’r hyn sy’n digwydd yn Lloegr. Ac, yn drydydd, rydym ni’n rhoi cynllun rhyddhad trosiannol ar waith—£10 miliwn o arian newydd—a fydd yn helpu’r busnesau hynny sy'n wynebu cynnydd sylweddol i’w hardrethi, yn dilyn y prisiad. Un peth y dylwn ei ychwanegu, wrth gwrs, yw y dylai busnesau, os ydynt yn teimlo eu bod wedi cael eu gorbrisio, gysylltu ag Asiantaeth y Swyddfa Brisio cyn gynted â phosibl er mwyn codi eu pryderon.