1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:39 pm ar 8 Tachwedd 2016.
Cwestiynau yn awr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew R.T. Davies.
Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Fel plaid a dorrodd dir newydd bron i 40 mlynedd yn ôl, Brif Weinidog, byddwn yn falch iawn o roi’r llawlyfr i’r Blaid Lafur ar sut i ethol menyw i fod yn arweinydd, pe hoffech chi ddarllen y llawlyfr hwnnw. Ond, hoffwn ofyn cwestiwn o ddifrif i chi am ardrethi busnes, os yw’n bosibl, os gwelwch yn dda, Brif Weinidog. Yn dilyn ailbrisio diweddar busnesau ar hyd a lled Cymru, mae llawer o fusnesau yn wynebu cynnydd erchyll i’w hardrethi busnes. Beth yw eich barn chi ar yr ailbrisio sydd wedi digwydd a'r sefyllfa y mae llawer o fusnesau bach a chanolig eu maint yn canfod eu hunain ynddi?
Tri pheth—byddwn yn disgwyl i’r rhan fwyaf o fusnesau weld lleihad i’w gwerth ardrethol, dim ond oherwydd y ffaith fod y prisiad diwethaf wedi digwydd yn 2008, cyn, wrth gwrs, argyfwng economaidd y byd a gafwyd wedi hynny. Yn ail, fodd bynnag, wrth gwrs, bydd ein cynllun rhyddhad ardrethi i fusnesau bach yn parhau i gyrraedd mwy o fusnesau—canran fwy o fusnesau—na’r hyn sy’n digwydd yn Lloegr. Ac, yn drydydd, rydym ni’n rhoi cynllun rhyddhad trosiannol ar waith—£10 miliwn o arian newydd—a fydd yn helpu’r busnesau hynny sy'n wynebu cynnydd sylweddol i’w hardrethi, yn dilyn y prisiad. Un peth y dylwn ei ychwanegu, wrth gwrs, yw y dylai busnesau, os ydynt yn teimlo eu bod wedi cael eu gorbrisio, gysylltu ag Asiantaeth y Swyddfa Brisio cyn gynted â phosibl er mwyn codi eu pryderon.
Diolch i chi am yr ateb yna, Brif Weinidog. Aeth arweinydd y tŷ a minnau i brotest yn y Bont-faen, ond, rwyf wedi bod i lawer o drefi yn ystod y pythefnos diwethaf, ac mae'n ymddangos y bu enghreifftiau dro ar ôl tro o, yn sicr, safleoedd manwerthu eilaidd a mannau lletygarwch hefyd y mae’n ymddangos eu bod wedi gwneud yn eithaf gwael o dan yr ailbrisiad hwn, ac mae llawer yn wynebu cynnydd enfawr i’w gwerthoedd ardrethol, ymhell dros 100 y cant mewn nifer o achosion.
Clywaf yr hyn a ddywedwch am y mesurau y mae Llywodraeth Cymru wedi eu rhoi ar y bwrdd, ac maent i’w croesawu. Ond mae'n ymddangos, yn sicr yn y cyfnod pontio, pe byddai ymgynghoriad yn cael ei gynnal gan y Gweinidog i’r drefn newydd ym mis Ebrill 2018 oni bai bod mwy’n cael ei wneud yn y rownd gyllideb bresennol i gynnig mwy o gymorth i rai o'r busnesau hynny sy'n eu canfod eu hunain ar ochr anghywir y prisiadau hyn, nid ydynt yn mynd i fod o gwmpas ym mis Ebrill 2018. A allwch chi gynnig unrhyw gysur i'r busnesau sy’n canfod eu hunain yn ymdopi â’r cynnydd enfawr hwn i’w gwerthoedd ardrethol, y bydd proses y gyllideb yn ceisio rhyddhau cyllid ychwanegol i liniaru’r ergyd i lawer o'r busnesau hyn yn y cyfnod newydd o ardrethi busnes?
Unwaith eto, cyfeiriaf at y ffaith bod £10 miliwn yn cael ei neilltuo mewn arian newydd ar gyfer cynllun trosiannol i helpu busnesau sy'n wynebu'r anawsterau hyn.
Rwy’n gresynu na allwch chi gynnig mwy o gysur na hynny, oherwydd, yn sicr y busnesau yr wyf i wedi siarad â nhw, pan eu bod wedi edrych ar yr arian trosiannol o £10 miliwn sydd ar gael, nid ydynt yn credu y bydd hynny'n mynd yn ddigon pell i’w helpu i aros mewn busnes. Ac nid wyf yn bychanu'r cynnig y mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud, ond ceir rhai pryderon dilys iawn, iawn allan yna na fydd busnesau, gyda'r drefn newydd sydd ar waith ar y prisiad, o fis Ebrill 2017 yn gallu parhau. Ac felly rwy’n credu ei bod yn anffodus nad ydych chi wedi gallu cynnig rhywfaint o gysur, gyda'r rownd gyllideb yn parhau ar hyn o bryd, ac na allwch chi edrych efallai ar y llinellau cyllideb ac efallai ceisio dod o hyd i adnoddau ychwanegol i helpu rhai o'r busnesau hyn yn y cyfnod pontio.
Ond soniasoch hefyd am y swyddfa brisio, a’r strwythur apêl, y mae gan lawer o’r busnesau hyn ddealltwriaeth dda ohono. Dywedwyd wrthyf fod llawer o fusnesau wedi cael amser erchyll yn cael gafael ar y swyddfa brisio ac, yn arbennig, ddim ond yn gallu cael y broses ar y gweill er mwyn iddyn nhw allu herio rhai o'r prisiadau hyn. A wnewch chi weithio gyda'r swyddfa brisio, i wneud yn siŵr, pan fydd busnesau yn cysylltu â nhw, eu bod nhw’n cael ymateb prydlon? Oherwydd, rwyf wir yn ofni am les ariannol llawer o’r busnesau bach hyn sydd wedi cysylltu â mi, ac â nifer o Aelodau eraill ar draws y pleidiau yn y Siambr hon, ac na fyddan nhw gyda ni ar ôl 1 Ebrill oni bai eu bod nhw’n cael rhywfaint o gymorth.
Nid wyf eisiau bychanu eu sefyllfa mewn unrhyw ffordd. A gaf i ofyn i arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig ysgrifennu ataf gyda’r enghreifftiau hynny? Mae wedi sôn am un dref benodol ac mae wedi sôn am fusnesau sydd wedi cael anhawster drwy'r broses apelio ac wedi gweld cynnydd a allai fod yn fawr i’w hardrethi busnes. Pe gallech chi rannu ei enghreifftiau â mi, byddaf, wrth gwrs, yn eu hystyried er mwyn llunio ein safbwynt o ran y flwyddyn neu ddwy nesaf.
Arweinydd grŵp UKIP, Neil Hamilton.
Diolch, Lywydd. Cyhoeddodd y Llywodraeth, ychydig ddiwrnodau yn ôl, y byddai toriad i’r gyllideb ar gyfer prosiectau newid yn yr hinsawdd o 36 y cant. Gan fod UKIP wedi sefyll yn yr etholiad diwethaf ar bolisi o dorri’r gyllideb hon, rwy’n falch o weld bod y Prif Weinidog yn dod i’n ffordd ni, yn yr un modd ag ymfudo a reolir. Ond, rwy'n credu ei bod braidd yn gwicsotig bod y toriadau mawr yn dod mewn amddiffynfeydd rhag llifogydd, sy'n angenrheidiol, yn hollol ar wahân i'r damcaniaethau ar gynhesu byd-eang a grëwyd gan bobl.
A wnaiff y Prif Weinidog dderbyn bod hyd yn oed y Panel Rhynglywodraethol ar y Newid yn yr Hinsawdd yn credu na fu unrhyw gynhesu byd-eang ers 1998, ac mai dim ond cynnydd o 0.4 y cant i dymereddau byd-eang a gafwyd rhwng 1975 a 1998, sy'n debyg i'r cyfnod rhwng 1860 a 1880, ac unwaith eto rhwng 1910 a 1940? Felly, onid yw’n gwneud synnwyr, felly, i beidio â gwario symiau enfawr o arian ar ganlyniadau damcaniaeth sy'n ddychmygol yn bennaf?
Rwy'n hoffi edrych ar bwysau'r dystiolaeth pan fyddwn ni’n ymdrin â sefyllfa benodol, a phwysau llethol y dystiolaeth gan y rheini sy’n gymwysedig yw bod newid yn yr hinsawdd yn digwydd, a bod gweithgarwch dynol yn cael effaith ar newid yn yr hinsawdd. Os nad yw newid yn yr hinsawdd yn digwydd, yna yn amlwg mae angen i ni ailystyried ein polisi amddiffyn rhag llifogydd oherwydd ein bod ni’n gwario arian ar amddiffynfeydd rhag llifogydd nad oes eu hangen yn ôl pob golwg, oherwydd, wrth gwrs, rydym ni’n gosod amddiffynfeydd rhag llifogydd i ymdrin â digwyddiadau llifogydd a welwyd mewn rhai rhannau o Gymru lle na chawsant eu gweld o'r blaen. Bydd trigolion Tal-y-bont yng Ngheredigion yn cynnig tystiolaeth o hynny. Rydym ni hefyd yn bwriadu darparu amddiffynfeydd i bobl yn seiliedig ar yr hyn y mae'r arbenigwyr yn ei ddweud wrthym fydd yn gynnydd i dymereddau byd-eang ac aflonyddwch dilynol patrymau tywydd dros y blynyddoedd nesaf. Mae newid yn yr hinsawdd yn rhywbeth nad yw'n digwydd dros bump neu 10 mlynedd: mae'n digwydd dros ddegawdau lawer, ac nid yw’n cael ei fesur yn ystod oes ddynol o reidrwydd ychwaith.
Bydd y Prif Weinidog yn gwybod fy mod i’n credu mai osgiliadau yn unig yw’r rhain—ac mae'r holl dystiolaeth hanesyddol yn profi hynny. Ond mae gen i ddiddordeb yn effaith polisi'r llywodraeth ar fywyd a bywoliaeth ein hetholwyr. Bydd yn gwybod bod 23 y cant o aelwydydd yng Nghymru mewn tlodi tanwydd yn ôl diffiniad y Llywodraeth ei hun—mae hynny’n 291,000 o aelwydydd—ac mai trethi gwyrdd yw 20 y cant o'r bil tanwydd cyfartalog mewn tŷ erbyn hyn. O fil cyfartalog cartrefi o £1,500 y flwyddyn, mae hynny’n £300 y flwyddyn. Mae hynny’n lleihad sylweddol iawn i safon byw gwirioneddol rhywun sydd ar incwm isel iawn. Onid oes rhywbeth y gall y Llywodraeth ei wneud i fod o fudd i fywydau pobl gyffredin trwy wrthwynebu’r trethi gwyrdd hyn ac adfer rhyw awgrym o gallineb yn ein polisi ar newid yn yr hinsawdd?
Os yw'n fater o gallineb, yna mae’r gwallgofrwydd a ddangoswyd ganddo ef ynghyd â'i blaid yn y 1980au pan gaewyd ein diwydiant glo yn brawf o hynny. Rwy’n croesawu ei dröedigaeth, ond un peth y mae'n rhaid i mi ei ddweud wrtho yw nad yw glo fel ffynhonnell tanwydd yn mynd i ddychwelyd yn y DU. Mae'r pyllau dwfn wedi mynd: adeiladwyd drostynt, mae adeiladau a chartrefi drostynt. Yr unig ddewis yw glo brig. Os yw'n dymuno hyrwyddo hynny, mae croeso iddo ymuno â mi a thrigolion Mynydd Cynffig yn fy etholaeth i sydd â safbwyntiau penodol ar gloddio brig ac y mae’n rhaid iddyn nhw fyw drws nesaf i'r hyn sydd, ar hyn o bryd, yn safle glo brig segur a diffaith. Y gwir yw bod gennym ni ddewis fel cenedl: naill ai rydym ni’n ceisio mewnforio mwy o ynni—boed hynny’n nwy naturiol o, er enghraifft, Rwsia—neu rydym ni’n ceisio mewnforio mwy fyth o nwy naturiol hylif neu rydym ni’n ceisio mewnforio glo o wledydd eraill yn y byd. Dyna un dewis, neu rydym ni’n dewis diogelwch ynni ac yn datblygu system ynni sy'n defnyddio ynni adnewyddadwy ond sydd hefyd yn ddiogel i ni yn y dyfodol. Hwnnw, rwy’n meddwl, yw'r dewis cwbl synhwyrol.
Wel, bydd y Prif Weinidog yn gwybod bod canran y trydan a gynhyrchir gan ynni’r gwynt neu ynni solar yn fach iawn: rhwng 3 y cant a 5 y cant fel rheol. Felly, mae’r syniad y gellir cael diogelwch ynni trwy fwy a mwy o felinau gwynt yn ffwlbri a byddai'n arwain at halogi ein cefn gwlad yn llwyr hefyd. Ond mae gennyf ddiddordeb yn yr effaith a gaiff trethi gwyrdd ar bobl dlawd. Daeth ei blaid ef i fodolaeth er mwyn ymladd dros fuddiannau pobl sy'n gweithio, ond ei blaid ef, mwy na neb oherwydd y Ddeddf newid yn yr hinsawdd, a gyflwynwyd gan ei Lywodraeth ef yn 2008—. Yn asesiad ei Lywodraeth ei hun o'i chostau, byddai'n £18 biliwn y flwyddyn, £720 biliwn dros 40 mlynedd. Mae hon yn goron o ddrain sy'n cael ei gosod ar bennau pobl gyffredin.
Ni allaf sefyll yma yn gwbl o ddifrif a gwrando ar ddyn â'i hanes ef yn pregethu wrthyf i am sefyll dros bobl sy'n gweithio. Dyma rywun a eistedded yno yn y Senedd yn y 1980au gan chwifio drwyddo’r weithred fwyaf o fandaliaeth ddiwydiannol a welodd y DU erioed: dinistriad swyddi yn y diwydiant dur, erydiad y diwydiant glo, dinistrio bywoliaethau cymunedau gan Lywodraeth nad oedd ots ganddi. Y gelyn y tu mewn—y gelyn y tu mewn—yw'r hyn a alwodd y blaid gyferbyn yr union bobl sy'n gweithio yn ne Cymru a'r Deyrnas Unedig. Rydym ni’n sefyll dros bobl sy'n gweithio. Rydym ni’n sefyll dros ffynonellau ynni sy'n ddiogel a byddwn yn parhau i wneud yn siŵr, yn gyntaf oll, nad yw pobl yn anghofio’r hyn a wnaeth y pleidiau gyferbyn iddyn nhw yn y 1980au, a byddwn yn parhau i sicrhau bod gan bobl swyddi, bod ganddyn nhw ynni diogel a thegwch, gan ddisodli'r hyn a gymerwyd oddi wrthynt gan y pleidiau gyferbyn.
Ar ran Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth.
Diolch, Lywydd. A ydy’r Prif Weinidog yn ymwybodol o faint y broblem o gyn-aelodau’r lluoedd arfog yn dioddef o broblemau iechyd meddwl? A yw’n derbyn beth ddywedodd y cyn bwyllgor iechyd wrth ddisgrifio cefnogaeth i gyn-filwyr yng Nghymru fel bod yn annigonol ac amhriodol?
Na, nid wyf yn derbyn hynny. Wrth gwrs, bob blwyddyn rydym ni wedi datgan pecyn newydd i’r rheini sydd wedi bod yn y lluoedd arfog, a dyna yn gwmws beth y byddwn ni’n ei wneud y flwyddyn hon hefyd, er mwyn sicrhau bod gyda nhw ffyrdd o gael mynediad i ofal iechyd meddwl a hefyd, wrth gwrs, iddyn nhw gael help gyda phopeth sydd ei eisiau arnyn nhw unwaith y byddan nhw’n gadael.
Nid ydym yn gwybod yn union faint o gyn-filwyr sy’n dioddef o broblemau iechyd meddwl achos nid yw’r ffigyrau union yn cael eu cyhoeddi. Rydym ni yn meddwl bod rhyw 4 y cant yn dioddef o anhwylder straen ôl-drawmatig, neu ‘post-traumatic stress disorder’. Rydym ni’n meddwl bod rhyw un o bob pump yn dioddef o ryw fath o afiechyd meddwl. Lleiafrif o gyn-filwyr ydy hyn, wrth gwrs, ond wrth i ni nesáu at Sul y Cofio, mae angen i bob cyn-filwr wybod bod y rhai a fu’n gwasanaethu ochr yn ochr â nhw yn cael eu gwerthfawrogi a’u bod yn cael eu gweld am yr hyn ydyn nhw, sef asedau i’n cymdeithas ni ac i’r gweithle, ac ati.
O ystyried beth ddywedodd y pwyllgor iechyd diwethaf, ac o ystyried beth ddywedodd y BMA wrth ddisgrifio cefnogaeth fel bod yn anghyson, pa gamau y mae’r Llywodraeth yn cynllunio i’w cymryd rŵan i wneud yn siŵr fod gwasanaethau cyhoeddus yn trin cyn-filwyr Cymru sydd angen cymorth mewn ffordd y maen nhw’n ei llawn haeddu?
Wel, yn fy marn i, mae hynny’n digwydd nawr, ond wrth ddweud hynny, nid oes un system lle nad yw’r system yn gallu cael ei wella. Y ffordd o wneud hynny yw’r ffordd yr ydym yn ei defnyddio, sef gweithio gyda’r cyrff sy’n cynrychioli’r rheini sydd wedi bod yn y lluoedd arfog er mwyn i ni gryfhau pecynnau iddyn nhw. Mae yna berthynas dda rhwng y cyrff hynny a’r Llywodraeth.
Y cwestiwn yw faint yr ydym ni’n ei wneud, wrth gwrs, ac mae wythnos y coffa yn amser da i atgoffa ein hunain bod gennym ddyletswydd gofal i gyn-bersonél y lluoedd arfog, ac nid oes gennyf unrhyw amheuaeth, wrth gwrs, y byddai'r Prif Weinidog yn cytuno â mi am hynny. Ond dim ond £585,000 yw’r gyllideb ar gyfer gwasanaeth iechyd a lles cyn-filwyr Cymru gyfan. Mae hynny’n llai na chanfed ran o 1 y cant o'r gyllideb iechyd gyfan.
Nawr, mae Plaid Cymru yn credu bod angen Deddf lles milwrol i sicrhau bod y cymorth hwnnw i gyn-filwyr yn gyson ac o ansawdd uchel ar draws y wlad, fel bod yr holl gyn-filwyr yn gwybod y bydd gan wasanaethau cyhoeddus ymrwymiad cyfreithiol i fod yno i’w cyn-gymrodyr. Felly, os, fel y byddai'r mwyafrif yn cytuno, nad yw’r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gyn-filwyr yn ddigon ar hyn o bryd, a wnaiff y Prif Weinidog addo deddfu yn ystod y Cynulliad hwn i sicrhau, pan ddaw i dai neu ofal meddygol, nad oes unrhyw gyn-filwr yn cael ei adael ar ôl?
Byddai angen i ni archwilio beth fyddai effaith y ddeddfwriaeth, ond serch hynny, mae'r teimladau y mae’r Aelod yn eu mynegi yn rhai yr wyf i’n eu rhannu. Rydym ni eisiau sicrhau bod ein cyn-filwyr yn cael y pecyn gorau posibl, a’r fargen orau bosibl, ar ôl iddyn nhw adael y lluoedd arfog. Gwneir hynny trwy weithio gyda sefydliadau cyn-filwyr fel y Lleng Brydeinig Frenhinol; gwneir hynny trwy sicrhau bod digon o arian ar gael yn benodol i helpu cyn-filwyr yn ogystal â chyllid ar gyfer y boblogaeth yn gyffredinol mewn meysydd fel iechyd, a byddwn yn parhau i archwilio'r ffyrdd mwyaf effeithiol o wella'r gwasanaeth hwnnw yn y dyfodol.