Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:41 pm ar 8 Tachwedd 2016.
Rwy’n gresynu na allwch chi gynnig mwy o gysur na hynny, oherwydd, yn sicr y busnesau yr wyf i wedi siarad â nhw, pan eu bod wedi edrych ar yr arian trosiannol o £10 miliwn sydd ar gael, nid ydynt yn credu y bydd hynny'n mynd yn ddigon pell i’w helpu i aros mewn busnes. Ac nid wyf yn bychanu'r cynnig y mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud, ond ceir rhai pryderon dilys iawn, iawn allan yna na fydd busnesau, gyda'r drefn newydd sydd ar waith ar y prisiad, o fis Ebrill 2017 yn gallu parhau. Ac felly rwy’n credu ei bod yn anffodus nad ydych chi wedi gallu cynnig rhywfaint o gysur, gyda'r rownd gyllideb yn parhau ar hyn o bryd, ac na allwch chi edrych efallai ar y llinellau cyllideb ac efallai ceisio dod o hyd i adnoddau ychwanegol i helpu rhai o'r busnesau hyn yn y cyfnod pontio.
Ond soniasoch hefyd am y swyddfa brisio, a’r strwythur apêl, y mae gan lawer o’r busnesau hyn ddealltwriaeth dda ohono. Dywedwyd wrthyf fod llawer o fusnesau wedi cael amser erchyll yn cael gafael ar y swyddfa brisio ac, yn arbennig, ddim ond yn gallu cael y broses ar y gweill er mwyn iddyn nhw allu herio rhai o'r prisiadau hyn. A wnewch chi weithio gyda'r swyddfa brisio, i wneud yn siŵr, pan fydd busnesau yn cysylltu â nhw, eu bod nhw’n cael ymateb prydlon? Oherwydd, rwyf wir yn ofni am les ariannol llawer o’r busnesau bach hyn sydd wedi cysylltu â mi, ac â nifer o Aelodau eraill ar draws y pleidiau yn y Siambr hon, ac na fyddan nhw gyda ni ar ôl 1 Ebrill oni bai eu bod nhw’n cael rhywfaint o gymorth.