Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:43 pm ar 8 Tachwedd 2016.
Diolch, Lywydd. Cyhoeddodd y Llywodraeth, ychydig ddiwrnodau yn ôl, y byddai toriad i’r gyllideb ar gyfer prosiectau newid yn yr hinsawdd o 36 y cant. Gan fod UKIP wedi sefyll yn yr etholiad diwethaf ar bolisi o dorri’r gyllideb hon, rwy’n falch o weld bod y Prif Weinidog yn dod i’n ffordd ni, yn yr un modd ag ymfudo a reolir. Ond, rwy'n credu ei bod braidd yn gwicsotig bod y toriadau mawr yn dod mewn amddiffynfeydd rhag llifogydd, sy'n angenrheidiol, yn hollol ar wahân i'r damcaniaethau ar gynhesu byd-eang a grëwyd gan bobl.
A wnaiff y Prif Weinidog dderbyn bod hyd yn oed y Panel Rhynglywodraethol ar y Newid yn yr Hinsawdd yn credu na fu unrhyw gynhesu byd-eang ers 1998, ac mai dim ond cynnydd o 0.4 y cant i dymereddau byd-eang a gafwyd rhwng 1975 a 1998, sy'n debyg i'r cyfnod rhwng 1860 a 1880, ac unwaith eto rhwng 1910 a 1940? Felly, onid yw’n gwneud synnwyr, felly, i beidio â gwario symiau enfawr o arian ar ganlyniadau damcaniaeth sy'n ddychmygol yn bennaf?