Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:58 pm ar 8 Tachwedd 2016.
Ym mis Mawrth 2013, canfu adolygiad sylfaenol bod 38,000 o gartrefi wedi’u cwmpasu yn yr ardaloedd. Ym mis Tachwedd 2013, gwahoddwyd awdurdodau lleol i wneud cais am gyllid i gefnogi'r gwaith o greu ardaloedd yn eu dalgylchoedd. Mae’n rhaid i mi ddweud, dim ond 12 awdurdod wnaeth ofyn am gyllid a darparwyd ychydig yn llai na £35,000. Wedi dweud hynny, mae nifer y cartrefi sy’n rhan o’r ardaloedd wedi cynyddu i 53,000 erbyn hyn.