1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 8 Tachwedd 2016.
5. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ardaloedd dim galw diwahoddiad yng Nghymru? OAQ(5)0245(FM)
Rydym ni’n gwybod bod ardaloedd dim galw diwahoddiad yn helpu i wneud pobl deimlo'n fwy diogel yn eu cymunedau. Rydym ni’n gwybod bod nifer y cartrefi sydd wedi’u cwmpasu gan ardaloedd o’r fath yn parhau i gynyddu. Yr hyn nad ydym byth yn siŵr ohono yw a yw ardaloedd dim galw diwahoddiad yn cynnwys canfaswyr gwleidyddol.
Mae hynny'n hollol wir. Mae ardaloedd dim galw diwahoddiad yn boblogaidd gyda thrigolion. Wrth ddanfon taflenni yn ystod hanner tymor mewn ardaloedd heb ardaloedd dim galw diwahoddiad, sylwais ar nifer fawr o dai â sticeri 'dim masnachwyr diwahoddiad' ar eu drysau. Beth all Llywodraeth Cymru ei wneud i gefnogi cynghorau i ehangu’r mannau sy’n rhan o ardaloedd dim galw diwahoddiad?
Ym mis Mawrth 2013, canfu adolygiad sylfaenol bod 38,000 o gartrefi wedi’u cwmpasu yn yr ardaloedd. Ym mis Tachwedd 2013, gwahoddwyd awdurdodau lleol i wneud cais am gyllid i gefnogi'r gwaith o greu ardaloedd yn eu dalgylchoedd. Mae’n rhaid i mi ddweud, dim ond 12 awdurdod wnaeth ofyn am gyllid a darparwyd ychydig yn llai na £35,000. Wedi dweud hynny, mae nifer y cartrefi sy’n rhan o’r ardaloedd wedi cynyddu i 53,000 erbyn hyn.
Brif Weinidog, rwy’n sicr yn credu bod angen gwneud mwy i ddiogelu defnyddwyr rhag post na ofynnwyd amdano a galwadau niwsans. Yn ôl y Swyddfa Masnachu Teg, amcangyfrifir bod y mathau hyn o sgamiau yn costio tua £3.5 biliwn y flwyddyn i'r dioddefwyr. A gaf i ofyn, a yw’r Llywodraeth wedi ystyried cyflwyno ardoll ar anfonwyr post, yn debyg i'r tâl am fagiau siopa, gan ganiatáu i'r arian hwnnw, wrth gwrs, gael ei ailfuddsoddi mewn gwahanol feysydd fel y diwydiant coedwigaeth, diogelu swyddfeydd post gwledig neu helpu awdurdodau lleol i ailgylchu gwastraff?
Yr anhawster gyda hynny yw nad yw'r rhan fwyaf o'r post yn tarddu o Gymru. O ran bagiau siopa, mae'n ddigon hawdd; mae’r bagiau siopa yn y siop yng Nghymru i ddechrau. Mae'n fater, os edrychwn ni’n ehangach, sy’n berthnasol i wastraff. Nid yw'r rhan fwyaf o'r gwastraff sy'n dod i mewn i Gymru ac sy’n cael ei gynhyrchu fel gwastraff yn dod o Gymru i ddechrau mewn gwirionedd. I mi, dull y DU ac Ewrop o ymdrin â hyn yw’r ateb, gan ein bod ni’n gwybod, yn sicr o fewn y DU, bod post na ofynnwyd amdano yn dal i fod yn broblem. Nid yw fel yr oedd, wrth gwrs, gan fod e-bost yn llawer haws nawr ac, fel rwy'n siŵr ein bod ni i gyd yn gwybod yn y Siambr hon, ceir y pla o alwadau ffôn gan sefydliadau sydd y tu allan i'r gwasanaeth dewis ffôn. Byddwn yn gefnogol iawn i unrhyw ddeddfwriaeth ar lefel y DU a fyddai'n cryfhau hawliau pobl i osgoi’r galwadau hyn yn y dyfodol, trwy gosbau priodol os oes angen.