Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:01 pm ar 8 Tachwedd 2016.
Mae hyn yn rhywbeth rŷm ni wedi ei ystyried, ond pan edrychom ni ar hyn—mae yna fwy o enwau yn cael eu newid o’r Saesneg i’r Gymraeg nag o’r Gymraeg i’r Saesneg. O achos hynny, ym mha ffordd, felly, y byddai’n bosibl i blismona hyn drwy’r system gynllunio? Nid wyf yn un sydd o blaid newid enwau Cymraeg i enwau Saesneg o ran enwau llefydd. Wedi dweud hynny, wrth gwrs, mae Comisiynydd y Gymraeg wedi sefydlu panel er mwyn rhoi cyngor ac argymhellion iddi hi ynglŷn ag ym mha ffordd y gallwn ni sicrhau bod ein treftadaeth yn yr iaith Gymraeg yn cael ei gwarchod.