<p>Enwau Lleoedd Hanesyddol </p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:02 pm ar 8 Tachwedd 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:02, 8 Tachwedd 2016

Mae Paul Davies yn sôn, wrth gwrs, am beth ddywedais i yn gynharach ynglŷn â beth mae’r comisiynydd wedi ei wneud, sydd yn rhywbeth rwy’n ei groesawu. Fel rhywun sydd yn byw mewn tref lle mae yna broblemau enfawr ynglŷn â rhai strydoedd o achos y ffaith bod enwau’r strydoedd wedi bod yn Gymraeg ers degawdau, wedi cael eu cyfieithu yn amlwg yn wael i mewn i’r Saesneg, ac nid oes neb nawr yn gwybod lle maen nhw’n byw. Mae yna sawl enghraifft ym Mhen-y-bont ar Ogwr lle mae’r enwau Cymraeg i hewlydd wedi cael eu camsillafu, wedi cael eu camddehongli wedi hynny a’u cam-gyfieithu hefyd. Felly, nid oes neb yn gwybod lle maen nhw nawr. Mae e’n beth pwysig achos mae yna bobl sy’n ffaelu cael credyd o achos hynny, ac nid yw’r ‘sat navs’ yn gweithio chwaith. Mae’n dangos ei fod yn rhywbeth sydd yn bwysig dros ben er mwyn sicrhau bod gennym un enw yn y Gymraeg sydd yn cael ei ystyried fel yr enw swyddogol, lle mae’r enw yna wedi bod yn enw hanesyddol dros y degawdau a’r canrifoedd.