Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:09 pm ar 8 Tachwedd 2016.
Byddwn yn dadlau bod yr hyn sydd gennym ni ar waith yn fwy hael nawr nag sy'n wir yn Lloegr. Pam? Oherwydd ei fod yn cyrraedd mwy o fusnesau. Bydd saith deg y cant o fusnesau yn derbyn rhyw fath o gymorth drwy'r cynllun rhyddhad ardrethi busnes, ni fydd dros hanner y busnesau cymwys yn talu unrhyw ardrethi o gwbl—mae hynny’n llawer mwy fel canran na’r hyn sy'n wir o dan y system yn Lloegr, er ei bod yn ymddangos ar yr wyneb ei bod yn fwy hael. Ond, mewn gwirionedd, mae cyrhaeddiad cynllun Cymru yn ddyfnach. Wedi dweud hynny, wrth gwrs, rydym ni’n cydnabod efallai y bydd rhai busnesau a fydd yn dioddef o ganlyniad i ailbrisio, fel y bydd bob amser pryd bynnag y bydd ailbrisio, a dyna pam y byddwn ni’n cyflwyno’r cynllun rhyddhad ardrethi trosiannol.