Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:10 pm ar 8 Tachwedd 2016.
Brif Weinidog, cyfarfu ymgeiswyr Llafur yn etholiadau'r Cynulliad eleni gyda busnesau bach ledled Powys yn ystod yr ymgyrch etholiadol a dywedasant wrthynt, 'Pleidleisiwch Lafur i gael gostyngiad treth'. Rwy’n dyfynnu un ymgeisydd a ddywedodd:
Mae ardrethi busnes yn tueddu i fod yn gyfran uwch o gyfanswm y costau gweithredu ar gyfer busnesau bach ac...mae llawer o fusnesau Powys o dan bwysau ariannol difrifol, ac felly byddant yn anadlu ochenaid o ryddhad os caiff Llafur ei ddychwelyd ar 5 Mai.
Mae llawer o'r busnesau hyn y cyfeiriwyd atynt bellach yn wynebu cynnydd i ardrethi busnes, felly beth ydych chi'n ei ddweud wrth y busnesau hyn a hysbyswyd gan ymgeiswyr Llafur y byddent yn cael gostyngiad treth yn eu hardrethi busnes, ond a fydd yn talu mwy mewn ardrethi busnes nawr?