<p>Ardrethi Busnes</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:11 pm ar 8 Tachwedd 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:11, 8 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

Mae'n amlwg eu bod nhw, oherwydd, fel y dywedais, mae 70 y cant yn cael gostyngiad treth o ganlyniad i gynllun sydd wedi bod dros dro, ond a adnewyddwyd bob blwyddyn ers rhai blynyddoedd. Nid oes unrhyw sefydlogrwydd i'r cynllun presennol. Rydym ni’n cyflwyno cynllun parhaol y flwyddyn nesaf er mwyn sicrhau bod gennym ni gynllun sy’n gydnerth, oherwydd ni all busnesau fodoli ar sail system lle mae’r cynllun rhyddhad ardrethi yn cael ei adnewyddu bob blwyddyn, heb iddyn nhw wybod a fydd hynny’n digwydd ai peidio. Byddwn yn parhau i wneud yn siŵr bod mwyafrif llethol busnesau Cymru yn cael y rhyddhad sydd ei angen arnynt.