<p>Y Cap Budd-daliadau (Torfaen)</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:14 pm ar 8 Tachwedd 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:14, 8 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

Mae gennym ni’r ffaith fod Llywodraeth y DU wedi cymryd budd-daliadau oddi wrth y rhai sydd mewn gwaith. Bu adeg pan roeddem yn dweud wrth bobl, os oeddent yn gweithio, y byddai eu hamgylchiadau yn gwella ac y byddai eu hincwm yn gwella, ac maen nhw wedi eu taro’n enbyd o ganlyniad i gamau a gymerwyd gan Lywodraeth y DU. Mae'r dreth ystafell wely yn enghraifft arall o hynny. Rwy’n sicr yn gresynu am y camau a gymerwyd dros y blynyddoedd diwethaf, pryd y gwelwyd mai’r rhai sydd fwyaf agored i niwed oedd y rhai sydd wedi dioddef fwyaf, tra bod y rhai, wrth gwrs, ar ben uchaf y ffrwd incwm wedi cael gostyngiad treth. Os oedd unrhyw beth mwy atchweliadol fel polisi treth, hwnnw ydyw.