1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 8 Tachwedd 2016.
9. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am oblygiadau'r cap budd-daliadau yn Nhorfaen? OAQ(5)0252(FM)
Yr amcangyfrif yw y bydd tua 200 o aelwydydd yn Nhorfaen yn cael eu heffeithio gan Lywodraeth y DU yn gostwng y cap budd-daliadau yn 2016-17, gyda cholled gyfartalog o £60 yr wythnos os na fyddant yn ymateb trwy symud i mewn i waith neu gynyddu eu horiau.
Diolch yn fawr, Brif Weinidog. Yn anffodus, bydd estyniad ddoe i’r cap budd-daliadau yn sicrhau, rwy’n credu, bod mwy o blant yn cael eu gwthio i dlodi trwy ddiwygiadau lles y Torïaid. Mae'r ffigurau a roddwyd gennych yn hollol gywir—mae £58 yr wythnos yn swm sylweddol o arian ac mae tua 516 o blant sydd ar aelwydydd sy'n cael eu heffeithio. Mae gan nifer o’r teuluoedd hynny ôl-ddyledion rhent eisoes ac, wrth gwrs, yr ofn nawr yw y bydd yn rhaid iddyn nhw ddewis rhwng prynu bwyd i’w teuluoedd a thalu eu rhent.
Bu dull partneriaeth cryf iawn yn Nhorfaen o dan arweiniad y cyngor i liniaru effaith diwygio lles, a gwnaed llawer o'r gwaith hwnnw o dan nawdd Cymunedau yn Gyntaf. O ystyried ymgynghoriad presennol Llywodraeth Cymru ar Gymunedau yn Gyntaf, pa sicrwydd allwch chi ei roi y bydd y gwaith hwn yn parhau i fod yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru beth bynnag a ddaw o’r ymgynghoriad hwnnw?
Yn amlwg, rydym ni eisiau cadw'r arferion gorau a sefydlwyd dros y blynyddoedd diwethaf. Mae Ysgrifennydd y Cabinet, wrth gwrs, wedi dweud ei fod o blaid dirwyn y rhaglen Cymunedau yn Gyntaf i ben, ond hefyd, wrth gwrs, o blaid datblygu dull newydd o adeiladu cymunedau cydnerth, a dyna pam mae'r broses ymgysylltu mor bwysig i ni, i glywed enghreifftiau y mae’r Aelod wedi cyfeirio atynt, er mwyn gwneud yn siŵr bod yr arferion gorau hynny yn parhau yn y dyfodol gyda'r trefniadau newydd.
A yw'r Prif Weinidog yn cytuno bod yn rhaid cael lefel uchaf o gymorth ariannol y gall hawliwr ddisgwyl i'r wladwriaeth ei ddarparu, ac na ddylai pobl ar fudd-daliadau allu gael mwy nag y mae teulu cyffredin sy'n gweithio yn ei ennill mewn cyflogaeth yng Nghymru?
Mae gennym ni’r ffaith fod Llywodraeth y DU wedi cymryd budd-daliadau oddi wrth y rhai sydd mewn gwaith. Bu adeg pan roeddem yn dweud wrth bobl, os oeddent yn gweithio, y byddai eu hamgylchiadau yn gwella ac y byddai eu hincwm yn gwella, ac maen nhw wedi eu taro’n enbyd o ganlyniad i gamau a gymerwyd gan Lywodraeth y DU. Mae'r dreth ystafell wely yn enghraifft arall o hynny. Rwy’n sicr yn gresynu am y camau a gymerwyd dros y blynyddoedd diwethaf, pryd y gwelwyd mai’r rhai sydd fwyaf agored i niwed oedd y rhai sydd wedi dioddef fwyaf, tra bod y rhai, wrth gwrs, ar ben uchaf y ffrwd incwm wedi cael gostyngiad treth. Os oedd unrhyw beth mwy atchweliadol fel polisi treth, hwnnw ydyw.
A wnaiff y Prif Weinidog gytuno â mi bod llawer o deuluoedd sy'n gweithio'n galed yn Nhorfaen a fyddai wrth eu boddau gyda chyflog mynd adref o £400, ac efallai mai dyna’r rheswm pam mae 21 y cant o bobl ddi-waith yn Nhorfaen wedi datgan nad ydyn nhw eisiau swydd?
Nid wyf yn gwybod o ble mae'n cael y ffigur yna. Yr hyn y gallaf ei ddweud wrtho yw bod y gyfradd ddiweithdra yn—[Torri ar draws.]
Mae'r Prif Weinidog yn ateb y cwestiwn. Brif Weinidog.
4.1 y cant yw ein cyfradd diweithdra. Rydym ni’n parhau i ddarparu swyddi i’n pobl. Rwy’n gresynu tôn yr Aelod gan nad wyf yn credu mai dyna ei farn wirioneddol. Ei farn ef, rwy’n credu, yw bod adeg yn y wlad hon pan oedd contract rhwng pobl a'r wladwriaeth, lle byddai'r wladwriaeth yn gwneud yr hyn a allai i ddarparu tai, addysg, i ddarparu gofal iechyd da a hefyd i ddarparu rhwyd ddiogelwch i bobl pe byddent yn dod yn ddi-waith, ond mae hynny wedi ei erydu’n raddol dros y blynyddoedd. Pan fydd yn ceisio rhoi pobl sy'n ddi-waith yn erbyn y rhai sydd mewn gwaith, rwy’n meddwl mai dyna'r ffordd anghywir ymlaen. Y gwir i lawer o bobl yw eu bod yn ei chael hi’n anodd cael gwaith oherwydd, weithiau, anableddau; maen nhw’n ei chael hi’n anodd cael gwaith a dyna pam mae angen cymorth a chymwysterau ychwanegol arnynt, yr ydym ni’n eu darparu; ond, yn y pen draw, nid wyf yn cytuno bod rhoi enw drwg i bobl sydd ar fudd-daliadau mewn gwirionedd yn ffordd dda o ddatblygu cydlyniad mewn cymdeithas.
Diolch i’r Prif Weinidog.