<p>Y Cap Budd-daliadau (Torfaen)</p>

Part of 1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:15 pm ar 8 Tachwedd 2016.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:15, 8 Tachwedd 2016

(Cyfieithwyd)

4.1 y cant yw ein cyfradd diweithdra. Rydym ni’n parhau i ddarparu swyddi i’n pobl. Rwy’n gresynu tôn yr Aelod gan nad wyf yn credu mai dyna ei farn wirioneddol. Ei farn ef, rwy’n credu, yw bod adeg yn y wlad hon pan oedd contract rhwng pobl a'r wladwriaeth, lle byddai'r wladwriaeth yn gwneud yr hyn a allai i ddarparu tai, addysg, i ddarparu gofal iechyd da a hefyd i ddarparu rhwyd ddiogelwch i bobl pe byddent yn dod yn ddi-waith, ond mae hynny wedi ei erydu’n raddol dros y blynyddoedd. Pan fydd yn ceisio rhoi pobl sy'n ddi-waith yn erbyn y rhai sydd mewn gwaith, rwy’n meddwl mai dyna'r ffordd anghywir ymlaen. Y gwir i lawer o bobl yw eu bod yn ei chael hi’n anodd cael gwaith oherwydd, weithiau, anableddau; maen nhw’n ei chael hi’n anodd cael gwaith a dyna pam mae angen cymorth a chymwysterau ychwanegol arnynt, yr ydym ni’n eu darparu; ond, yn y pen draw, nid wyf yn cytuno bod rhoi enw drwg i bobl sydd ar fudd-daliadau mewn gwirionedd yn ffordd dda o ddatblygu cydlyniad mewn cymdeithas.