Part of the debate – Senedd Cymru am 2:44 pm ar 8 Tachwedd 2016.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Roeddwn yn falch ddoe o gyflwyno Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru), ynghyd â’i femorandwm esboniadol, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae'r Bil yn cadarnhau ymrwymiad parhaus Llywodraeth Cymru i gymryd yr awenau o ran iechyd y cyhoedd a gwneud popeth yn ein gallu i wella a diogelu mwy ar iechyd pobl yng Nghymru.
Rydym yn gwybod bod yr heriau iechyd y cyhoedd yr ydym yn eu hwynebu yn esblygu’n gyson ac yn dod yn fwyfwy cymhleth. Mae angen ymateb cynhwysfawr ac amlochrog i fynd i’r afael â nhw. Er bod gan ddeddfwriaeth swyddogaeth bwysig a phendant, ni all gyflawni yr holl welliannau ac amddiffyniadau yr ydym yn dymuno eu gweld ar ei phen ei hun. Yn hytrach, mae'n un rhan annatod o agenda ehangach—agenda sy'n cynnwys ein gwaith ni ar draws ehangder y Llywodraeth i fynd i'r afael â’r hyn sy’n achosi afiechyd, yn ogystal â'n gwasanaethau iechyd cyhoeddus, ein rhaglenni, ein polisïau a’n hymgyrchoedd pwrpasol. Gyda'i gilydd, maent yn gwneud cyfraniad cadarnhaol cronnus, ac yn ein helpu i atal niwed y gellir ei osgoi a gwireddu ein dyheadau ar gyfer Cymru iach ac egnïol, ac mae pob un ohonynt yn cysylltu'n agos ag egwyddorion gofal iechyd darbodus.
Er na all un darn o ddeddfwriaeth ateb pob problem a datrys holl heriau iechyd y cyhoedd, gall wneud gwahaniaeth cadarnhaol ac ymarferol iawn. Dyna'r hyn y mae’r Bil hwn yn ceisio ei gyflawni. Mae'n cymryd camau mewn nifer o feysydd penodol er lles grwpiau penodol yn y gymdeithas, yn ogystal ag ar gyfer cymunedau yn eu cyfanrwydd.
Ar wahân i nifer fechan o fân newidiadau technegol, mae'r Bil yn cynnwys y darpariaethau a ystyriwyd yn wreiddiol gan y Cynulliad blaenorol, gan gynnwys y rhai a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod diwygio. Yr unig eithriad yw cael gwared ar y darpariaethau a fyddai wedi cyfyngu ar y defnydd o ddyfeisiau mewnanadlu nicotin mewn rhai mannau cyhoeddus. Mae'r cam wedi ei gymryd i gydnabod yr angen i greu consensws ar draws y Cynulliad hwn ac i sicrhau y gellir gwireddu’r amryfal fanteision y mae’r Bil hwn yn ceisio’u cyflawni dros Gymru.
Mae'r Bil yn ymdrin â nifer o faterion iechyd y cyhoedd pwysig. Mae'n creu trefn ddi-fwg amlwg ar gyfer Cymru, ac mae’r cyfyngiadau presennol ar ysmygu mewn mannau cyhoeddus caeedig a gweithleoedd wedi’u hymestyn i gynnwys tir ysgolion, tir ysbytai a meysydd chwarae cyhoeddus—newid y bwriedir iddo gynnig budd i blant, cleifion ac ymwelwyr. Mae hefyd yn caniatáu ar gyfer gwneud lleoliadau pellach yn rhai di-fwg yn y dyfodol os caiff amodau penodol eu bodloni ac os cânt eu cefnogi gan y Cynulliad hwn.
Mae'r Bil yn cefnogi'r amddiffyniadau presennol ar gyfer plant a phobl ifanc, gan eu hatal rhag cael gafael ar gynhyrchion tybaco a nicotin trwy greu cofrestr genedlaethol o fanwerthwyr y cynhyrchion hyn, a thrwy greu trosedd newydd, sef rhoi cynhyrchion tybaco neu nicotin yn fwriadol i bobl dan 18 oed. Bydd y mesurau pwysig hyn yn helpu awdurdodau gorfodi i gyflawni eu cyfrifoldebau yn fwy effeithiol a gwneud mwy i ddiogelu plant rhag niwed. Mae'r Bil yn creu system drwyddedu orfodol ar gyfer ymarferwyr sy'n cynnal triniaethau arbennig—aciwbigo, tyllu'r corff, electrolysis a thatŵio—gan helpu i amddiffyn pobl sy'n dewis cael y triniaethau hyn rhag y posibilrwydd o niwed a all ddigwydd os cânt eu cynnal mewn ffordd wael. Mae'r Bil hefyd yn gwahardd rhoi twll mewn rhan bersonol o gorff plentyn dan 16 oed, gan ddarparu amddiffyniad pwysig arall ar gyfer ein pobl ifanc.
Er y bwriedir i rai camau gweithredu yn y Bil gynnig budd i grwpiau penodol, bydd eraill o fudd i gymunedau cyfan. Yn gyntaf, drwy fynnu bod cyrff cyhoeddus yn cynnal asesiadau effaith ar iechyd mewn rhai amgylchiadau, byddwn yn helpu i sicrhau, cyn i benderfyniadau allweddol gael eu gwneud, eu bod wedi’u hysbysu gan ystyriaeth lawn o'u heffeithiau posibl ar iechyd a lles corfforol a meddyliol. Yn ail, bydd cymunedau yn elwa ar y newidiadau arfaethedig i'r ffordd y caiff gwasanaethau fferyllol eu cynllunio yng Nghymru, er mwyn diwallu anghenion cymunedau lleol yn well. Ac yn drydydd, bydd cymunedau yn elwa ar wella’r gwaith o gynllunio darpariaeth a mynediad i doiledau i'w defnyddio gan y cyhoedd—mater sy'n effeithio ar bawb, ond sydd ag arwyddocâd arbennig o ran iechyd y cyhoedd ar gyfer grwpiau penodol.
Wrth gwrs, mae'r Bil eisoes wedi elwa ar broses ymgynghori helaeth dros nifer o flynyddoedd ac ar graffu manwl yn ystod y Pedwerydd Cynulliad. Mae'r broses o graffu eisoes wedi cryfhau'r Bil yn uniongyrchol mewn nifer o ffyrdd. Arweiniodd at ymestyn y drefn ddi-fwg i'r lleoliadau newydd, sef tiroedd ysgolion, tiroedd ysbytai a meysydd chwarae cyhoeddus. Cryfhaodd hyn y Bil drwy amddiffyn plant rhag y niwed iechyd penodol y gall tyllu’r tafod ei achosi, ac arweiniodd yn uniongyrchol at gynnwys darpariaethau pwysig am asesiadau effaith ar iechyd. Serch hynny, rwyf yn siŵr y bydd y Bil yn elwa ar graffu trwyadl pellach ar amrywiaeth o faterion ac ar drafodaeth am fanylion penodol. Felly, edrychaf ymlaen at y broses graffu a fydd yn dilyn yn awr, ac at yr ymgysylltiad adeiladol â’r amryw sefydliadau a fydd â diddordeb mewn gwneud y Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) hwn yn llwyddiant, ac at sicrhau’r manteision mwyaf posibl yn sgil y ddeddfwriaeth hon ar gyfer pobl Cymru.